Wythnos Gwirfoddolwyr 1af – 7fed Mehefin
Mae gan bob un o’n gwirfoddolwyr gwahanol brofiadau bywyd, gan gynnwys Ali, a ddaeth i Dde Cymru ar ôl gadael ei gartref yn Iran. Wedi iddo wasanaethu fel Diffoddwr Tân am bedair blynedd yn ei wlad enedigol, mae gwirfoddoli â ni’n rhoi mewnwelediad mawr iddo ynglŷn â GTADC. Dechreuodd Ali wirfoddoli’r Hydref diwethaf ac mae wedi bod ynghlwm â gwahanol weithgareddau, gan gynnwys chwarae rôl ar gyfer sesiynau hyfforddi ac ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd mewn digwyddiadau cymunedol. Hefyd, mae’n astudio’n galed i ennill fersiwn cyfartalog y DG o’i gymwysterau, ac felly, hoffwn ddweud ‘Diolch’ anferth i Ali am greu’r amser i wirfoddoli gyda ni, ac am wneud gwahaniaeth i’n cymunedau ar draws De Cymru.
Dechreuodd Claire wirfoddoli gyda ni’r Hydref diwethaf a daeth â chyfoeth o brofiad yn ymgysylltu â phobl gyda hi – gan gynnwys gweithio mewn amgylchedd dalfa mewn carchar ac o fewn ysgolion, ynghyd â gwirfoddoli ag Ambiwlans Sant Ioan hefyd. Yn amlwg, mae Claire yn teimlo’n gryf ynghylch gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned leol ac, yn y pendraw, yn dymuno helpu cadw pobl yn ddiogel. Hoffwn ddweud ‘Diolch’ mawr i Claire am ddewis gwirfoddoli gyda ni, ac rydym wrth ein bodd ei bod mor awyddus i fod yn rhan o bethau ac ymhel â chyfleoedd newydd!
Fe wnaeth Lee wneud cais i ymuno fel gwirfoddolwr yn ystod y pandemig pan roedd mwyafrif ein gweithgareddau wedi’u gohirio dros dro. Wedi i ni ail-gychwyn, ro’n ni’n ffodus iawn i ganfod fod mwyafrif ein gwirfoddolwyr, gan gynnwys Lee, dal yn awyddus ac yn gallu ymrwymo. Gyda phrofiad blaenorol o wirfoddoli â’r Groes Goch Brydeinig, bellach mae’n gwirfoddoli gyda ni o ganlyniad i’w ddiddordeb yn yr hyn a wnawn. Mae gweithio’n llawn amser a dal i ganfod amser i wirfoddoli’n dipyn o gamp, ac felly hoffwn ddweud ‘Diolch’ mawr i Lee am greu’r amser i fod yn gysylltiedig â ni ac am fod yn gefnogwr gwych o’r hyn rydym yn gwneud.
Bod â diddordeb byw wrth ddod i ddeall mwy am beth rydyn ni’n gwneud yn GTADC ddaeth â Ryan i fod yn wirfoddolwr gyda ni. Gyda phrofiad blaenorol o wirfoddoli mewn amgylchedd ym myd y campau, a bellach yn gweithio tuag at gymhwyster mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’n amlwg fod Ryan am wneud gwahaniaeth. Ers dechrau gyda ni yn Rhagfyr, mae e wedi bod ynghlwm ag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cefnogi ein timau mewn digwyddiadau recriwtio a chwarae rôl ar gyfer sesiynau hyfforddi. Yn astudio llawn amser law yn llaw â gweithio ar fferm leol, mae Ryan yn berson prysur – ond mae dal amser ganddo i wirfoddoli gyda ni. Felly, hoffwn ddweud ‘Diolch’ anferth i Ryan am ein cefnogi ni a’r cymunedau rydym yn cydweithio â hwy.