Arweiniad Ymatebydd Glan y Dŵr i staff Mermaid Quay
Ar Ddydd Iau 17 Awst 2023, aeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) i ddigwyddiad Ymgyrch Seabird Cymru ym Mae Caerdydd, i gynnal arweiniad ‘Ymatebydd Glan Dŵr’ i staff Mermaid Quay.
Mae Ymatebydd Glan Dŵr yn gynllun Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) sy’n darparu arweiniad am ddim a llinellau taflu i staff lleoliadau ledled y DU i helpu i atal achosion o foddi damweiniol.
Mae GTADC a’r RNLI wedi creu partneriaeth i gynnal yr arweiniad achub bywyd hwn mewn lleoliadau mewndirol yn Ne Cymru.
Mae Bae Caerdydd yn gyrchfan boblogaidd iawn i bobl fynychu a chael amser da. Mae digonedd o fwytai, bariau ac atyniadau ar gyfer pob oed, a dyna pam roedd GTADC yn ei chael hi’n bwysig i ddarparu cyngor i staff Mermaid Quay.
Dywedodd Rheolwr Diogelwch Ffyrdd GTADC, Dave Vaughan:
“Mae alcohol yn ffactor sy’n gallu gwneud pobl yn fwy tueddol o fynd i mewn i ddŵr. Hyd yn oed ar ddiwrnod cynnes, gall dŵr fod yn oer iawn. Gall ddwyn yr aer o ysgyfaint person, a all atal person rhag gallu nofio neu aros i arnofio.
“Roedd yr arweiniad yn cynnwys cyfarwyddo staff y lleoliad ar beryglon sioc dŵr oer a pha mor hanfodol yw tri munud cyntaf person yn mynd i mewn i’r dŵr ar gyfer goroesi. Rhoddir llinellau taflu i’r lleoliadau sydd wedi’u rhoi yn rhad ac am ddim gan yr RNLI.”
Yna dysgwyd y staff sut i gadw mewn cysylltiad â’r claf, cysylltu â’r gwasanaethau brys a chynnal techneg syml gan ddefnyddio llinell daflu i ddod â nhw i ddiogelwch. Bydd yr hyfforddiant achub bywyd posibl hwn hefyd yn atal aelodau eraill o’r cyhoedd rhag mynd i mewn i ddŵr i geisio achub.
Bydd GTADC yn dychwelyd i Fae Caerdydd ar ddiwedd gwyliau ysgol haf 2023 i wneud mwy gyda lleoliadau eraill sydd ar lan y dŵr.
Fideo sut i ddefnyddio llinell daflu mewn argyfwng (Saesneg yn unig):
Adnoddau Defnyddiol:
Ymgyrch Seabird Cymru
Mae Ymgyrch Seabird yn ymgyrch genedlaethol sy’n ceisio ymgysylltu ac addysgu pobl am sensitifrwydd yr arfordir a sut y gallai newidiadau syml mewn ymddygiad leihau’r pwysau ar ein bywyd gwyllt unigryw.
Mae partneriaid o bob rhan o Gymru yn cefnogi’r ymgyrch hon, ac yn ddiweddar buom mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd ochr yn ochr â Heddlu De Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch a’r effeithiau ar fywyd gwyllt lleol.