Effeithiau 30mya i 20mya
Rydym yn cefnogi newidiadau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru i leihau terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya. Bydd hyn yn digwydd er mwyn lleihau marwolaethau traffig ffyrdd ac anafiadau difrifol yn ein cymunedau, gan gynnwys ardaloedd adeiledig lle mae pobl a cherbydau’n agos at ei gilydd.
Dylai hyn leihau nifer y digwyddiadau difrifol y bydd ein Hymladdwyr Tân yn eu mynychu ac yn ei thro bydd yn diogelu eu hiechyd meddwl ar ôl profi’r digwyddiadau trawmatig o’r fath.
Gofynnwyd i ni a fydd hyn yn effeithio ar amseroedd ymateb Ymladdwyr Tân Ar Alwad. Mae ein Hymladdwyr Tân Ar Alwad yn byw neu’n gweithio mewn lleoliadau amrywiol o fewn ein cymunedau ac mae eu hamseroedd ymateb yn amrywio’n unol â hynny. Nid pawb sy’n defnyddio car yn unig ac nid pawb fydd yn cymudo ar ffyrdd lle mae 20mya yn berthnasol. Felly, nid ydym yn rhagweld y bydd y newidiadau hyn yn effeithio’n andwyol ar ein hamseroedd ymateb cyffredinol a byddwn yn adolygu eu heffaith maes o law.
Mae ein Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau partner a chydweithwyr gwasanaethau brys, i ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd a’u haddysgu am y newidiadau a manteision gyrru ar gyflymder is ill ddau.
I gael rhagor o wybodaeth am ein rôl yn y newid, ewch i: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-gorfodi-or-terfyn-cyflymder-diofyn-newydd-o-20mya