Uned Trosedd Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dod yn y Dîm Lleihau Llosgi Bwriadol
Ar yr 11eg o Hydref 2023, mae Uned Trosedd Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n newid ei enw i’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, mewn symudiad a gynlluniwyd i adlewyrchu gweithgareddau atal y tîm yn fwy ynghyd â lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â dioddefwyr trosedd tân – sy’n cael ei adlewyrchu’n bennaf ac yn arbennig drwy law’r drosedd o losgi bwriadol.
Prif nod y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol fydd ynghylch gweithio i leihau cynnau tân bwriadol o fewn y gymuned wrth hyrwyddo diogelwch y cyhoedd a gweithio mewn partneriaeth, gan fod Ymarferwyr Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio law yn llaw â’r 10 Awdurdod Unedol rydym yn gwasanaethu o fewn De Cymru.
Mae gweithgareddau’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn cynnwys:
1 / Patrolau
Cynlluniwyd y defnydd o batrolau gwelededd amlwg o fewn y gymuned i rwystro’r rhai hynny sy’n ystyried cyflawni gweithred o losgi bwriadol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r patrolau hefyd yn darparu cyngor a chysur i gymunedau lle mae pryderon ynghylch llosgi bwriadol.
2 / Asesiadau bod yn agored i losgi bwriadol
Gall adeiladau gweigion ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon a thresbasu. Er yn wag ac yn aml mewn cyflwr diofal, mae dal modd iddynt beri risg i’r ardal lle’u lleolwyd, yn enwedig os maen nhw’n llawn cistiau sydd wedi’u diosg. Bydd y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn cyflwyno Asesiad bod yn agored i Losgi Bwriadol yn dilyn tân mewn safle neu adeilad neu yn dilyn arolwg arferol o’r ardal. Bydd ein staff yn adnabod materion a all effeithio ein diogelwch diffodd tân, gan basio’u gwybodaeth yn ôl i’n Hadran Rheoli Tân.
3 / Dwysáu targedau
Mae cyswllt amlwg rhwng ymosodiadau llosgi bwriadol a thrais domestig. Mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio’n agos â’r Heddlu a’r Awdurdodau Lleol i sicrhau bydd dioddefwyr yn teimlo’n ddiogelach yn eu cartrefi. Efallai gall hwn gynnwys gosod platiau blychau llythyrau ffug, larymau mwg ychwanegol a chymorth, os oes angen, wrth greu ‘ystafell ddiogel’. Hefyd, rydym yn mynychu Cynadleddau Asesiad Risg Aml-Asiantaeth (MARACs) sy’n caniatáu i Ymarferwyr Lleihau Llosgi Bwriadol wneud trefniadau i ymweld ag eiddo pan adnabyddir achos brys o drais domestig. Yn ogystal, mae proses atgyfeirio.
4 / Gweithgareddau tymhorol
Yn ystod “tymor y tanau gwyllt” ac “Ymgyrch Bang”, sy’n digwydd yn flynyddol o Noson Calan Gaeaf hyd Noson Tân Gwyllt, mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio’n agos â phartneriaid ar ddigwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu cymunedol i rannu negeseuon diogelwch pwysig, neu i sefydlu patrolau neu weithgareddau dargyfeirio o fewn y gymuned i addysgu’r cyhoedd. Yn ystod y cyfnodau hyn, yn aml rydym yn gweld cynnydd mewn tanau bwriadol, megis tanau gwastraff, coelcerthi a chynnau tanau i’n mynyddoedd a’n glaswelltir.
Dywedodd Rheolwr Gorsaf a Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, Mike Hill:
“Er mai dim ond newid enw yw hwn, mae’n fwy o gynrychioliad o weithgareddau ataliol ac ymatebol y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol. Os bydd rhywun yn cael ei atgyfeirio at y tîm sy’n destun trais domestig, maen nhw’n dioddef lawer llai o stigma os bydd un o’n tîm yn mynychu mewn cerbyd sy’n cynnwys logo brandio’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol na cherbyd Trosedd Tân, lle mae modd iddynt gael eu labelu’n annheg fel y tramgwyddwr. Hefyd, bydd y newid enw hwn yn dod â’r Gwasanaeth yn gyfredol â’r ddau Wasanaeth Tân ac Achub Cymreig arall, sy’n ei gwneud yn haws rhyngweithio â’n holl bartneriaid, yn enwedig y rhai hynny sy’n gweithio ar draws ffiniau.”
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn gweithredu fel ‘Noddfeydd Diogel‘, lle gall unrhyw un sydd mewn perygl uniongyrchol anelu at un o’n gorsafoedd i gyrchu help.