Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Digwyddiad Diogelwch Ffyrdd 2023
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn falch o gefnogi digwyddiad diogelwch ffyrdd blynyddol mwyaf y DU, Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd (19 – 25 Tachwedd 2023)
Wedi’i threfnu gan Brake, sef elusen diogelwch ar y ffyrdd, thema Wythnos Diogelwch Ffyrdd eleni yw gofyn i ni ‘siarad am gyflymder.’ Bob blwyddyn, mae miloedd o ysgolion, sefydliadau a chymunedau yn cymryd rhan yn yr ymgyrch i rannu negeseuon diogelwch ffyrdd pwysig .
Eleni, mae’r ymgyrch yn gofyn i ni:
Why is Road Safety Week so important?
Every 22 minutes, someone is seriously injured or killed on a UK road.
This is why it is vital that road users refresh their understanding of what is considered safe or dangerous driving.
Road Safety Week serves as a reminder for drivers to be aware of any hazards on the road, check their car to ensure it’s safe to drive and the effects of driving whilst not fully alert. Pam fod Wythnos Diogelwch Ffyrdd mor bwysig?
Bob 22 munud, mae rhywun yn cael ei anafu’n ddifrifol neu’n cael ei ladd ar ffordd yn y DU.
Dyna pam ei bod yn hanfodol bod gan ddefnyddwyr ffyrdd ddealltwriaeth gyfredol o’r hyn sy’n cael ei iihystyried yn yrru diogel neu beryglus.
Mae Wythnos Diogelwch Ffyrdd yn fodd i atgoffa gyrwyr i fod yn ymwybodol o unrhyw beryglon ar y ffordd, gwirio eu car i sicrhau ei fod yn ddiogel i yrru ac effeithiau gyrru heb fod yn gwbl effro.
SWFRS Road Traffic Collision Reduction Manager and Station Manager, Nev Thomas, said:
“Between 1 April 2022 and 31 March 2023, SWFRS attended 848 road traffic collisions.
SWFRS plays a crucial role in raising awareness of road safety across South Wales, and throughout the week we will be working closely with our partners to spread and promote the message of safe roads for all.
To mark Road Safety Week, SWFRS’s Road Safety Team will be conducting a number of engagement, education and intervention events, with the aim of helping to make Welsh Roads safer.
By utilising our resources, we aim to save lives, prevent accidents and injuries, and reduce the number of incidents in the areas we protect.”
Dywedodd Nev Thomas, Rheolwr Lleihau Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd GTADC a’r Rheolwr Gorsaf:
“Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, mynychodd GTADC 848 o wrthdrawiadau traffig ffyrdd.
Mae GTADC yn chwarae rhan hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ar draws De Cymru, a thrwy’r yr wythnos byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ledaenu a hyrwyddo neges ffyrdd diogel i bawb.
I nodi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, bydd Tîm Diogelwch Ffyrdd GTADC yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu, addysg ac ymyrraeth, gyda’r nod o helpu i wneud Ffyrdd Cymru’n fwy diogel.
Trwy ddefnyddio ein hadnoddau, ein nod yw achub bywydau, atal damweiniau ac anafiadau, a lleihau nifer y digwyddiadau yn yr ardaloedd rydym yn eu hamddiffyn.”
Effeithiau 30mya i 20mya
Mae GTADC yn cefnogi newidiadau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru i leihau terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya, fel ffordd o leihau marwolaethau traffig ffyrdd ac anafiadau difrifol yn ein cymunedau, gan gynnwys mewn ardaloedd adeiledig lle mae pobl a cherbydau yn cymysgu’n agos.
Y gobaith hefyd yw y bydd y gostyngiad yn y terfyn cyflymder yn lleihau nifer y digwyddiadau difrifol y bydd ein Hymladdwyr Tân yn eu mynychu ac yn cynyddu eu diogelwch seicolegol rhag profi’r digwyddiadau trawmatig hyn.
Ers nifer o flynyddoedd, mae ein Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd, sy’n uned annibynnol nad yw’n defnyddio adnoddau achub rheng flaen, wedi gweithio’n agos gydag asiantaethau partner a chydweithwyr yn y gwasanaethau brys, i ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd a’u haddysgu am y newidiadau a manteision gyrru ar gyflymder is, yn ogystal â pheryglon y 5 Angheuol.
I gael rhagor o wybodaeth am ein rôl yn y newid, ewch i: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-gorfodi-or-terfyn-cyflymder-diofyn-newydd-o-20mya
Dilynwch ni ar Twitter | Facebook | Instagram i gael y cyngor a’r arweiniad diweddaraf am ddiogelwch ar y ffyrdd.
Adnoddau Defnyddiol