Taenellwyr yn arbed bywydau
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cefnogi ymgyrch genedlaethol i wella deddfwriaeth y DU mewn perthynas â systemau dŵr awtomatig ar gyfer atal tanau (SADA).
Mae Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol yn cyflwyno Wythnos Ymwybyddiaeth o Daenellwyr yn ystod y 12fed i’r 17eg o Fawrth, sy’n annog perchnogion adeiladau ac aelodau o’r cyhoedd i “feddwl am daenellwyr”, gan amlinellu sut mae taenellwyr yn arbed bywydau.
Mae’r ymgyrch, sydd erbyn hyn yn ei phumed flwyddyn, yn anelu at amlygu mythau cyffredin am daenellwyr er mwyn eu diystyru; drwy addysgu busnesau ynghylch manteision gosod taenellwyr a lleihau effeithiau tanau.
Dywedodd Simon Roome, Rheolwr Grŵp Busnes Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Dengys tystiolaeth yn amlwg sut gall taenellwyr fod yn effeithiol wrth ddiffodd tanau a’u hatal rhag lledu.
“Yn 2011, Cymru arweiniodd y ffordd gan mai hi oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno deddfwriaeth yn ei gwneud hi’n orfodol i bobl osod gosod taenellwyr ym mhob cartref newydd.
“Mae’r ddeddfwriaeth, a ddaeth i rym yn Ionawr 2016, yn un o’r enghreifftiau o newid mwyaf arwyddocaol o ran y system reoleiddio diogelwch tân ac rydym yn awyddus i fwy o fusnesau gymryd camau tuag at osod taenellwyr.”
Am fwy o wybodaeth, cyngor a chanllawiau am systemau taenellu, galwch yr Adran Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar 01443 232716.