Datganiad Tân Trefforest (14/12/23)
Mae’r gwasanaethau brys yn parhau ar safle lle bu tân mewn adeilad ar Ffordd Hafren, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, Rhondda Cynon Taf.
Mae hwn yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad mewn eiddo toc wedi 7.00yh neithiwr.
Does dim adroddiadau am unrhyw anafiadau difrifol. Fodd bynnag, mae un person ar goll o hyd.
Erbyn hyn mae’r tân wedi’i ddiffodd i raddau helaeth, gyda phocedi bach o dân ar oll. Bydd rhai ffyrdd a busnesau yn yr ardal yn dal i gael eu heffeithio.
Mae chwe pheiriant pwmpio, nifer o beiriannau eraill a chriwiau yn bresennol o hyd. Roedd Pwmp Cyfaint Mawr wedi bod yn tynnu dŵr o’r Afon Taf, er bod hwn wedi cael ei leihau gan fwriadu stopio erbyn tua hanner dydd, i alluogi agor mwy o ffyrdd, a fydd yn lleddfu traffig yn yr ardal yn fwy.
Mae tîm ymchwilio ar y cyd o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu De Cymru, gydag Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch erbyn hyn ar y safle i ganfod achos y tân.