Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn penodi Cyfarwyddwr Newid Strategol a Thrawsnewid newydd
Fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid eang sy’n cael ei chynnal yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), mae’r Comisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru wedi sefydlu rôl tymor penodol ar gyfer Cyfarwyddwr Newid Strategol a Thrawsnewid.
Yn dilyn proses recriwtio gynhwysfawr a oedd yn cynnwys staff o bob rhan o’r Gwasanaeth, uwch arweinwyr, a’r Comisiynwyr, mae Dominic Mika wedi cael ei benodi i’r rôl newydd.
Mae Mr Mika Ddiffoddwr Tân gyrfaol ac yn swyddog wrth gefn gyda’r Môr-filwyr Brenhinol ac mae ei gymwysterau yn cynnwys bagloriaeth, cymhwyster ôl-raddedig a gradd feistr mewn arweinyddiaeth gymhwysol, rheoli brys, hydwythdedd busnes, a diwylliant, rheoli perfformiad a thrawsnewid. Wrth ymuno â GTADC bydd yn gadael ei swydd gydag Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi a’r Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi. (HMICFRS).
Bydd Mr Mika yn gweithio â’r Comisiynwyr a’r Prif Swyddog Tân fel rhan o’r Tîm Arwain Gweithredol i arwain y Rhaglen Drawsnewid.
Dywedodd: “Rwy’n ddiolchgar o gael y cyfle i ddod yn rhan o’r tîm hwn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
“Rwy’n gyffrous am gael gweithio gyda’n staff, ein partneriaid, a’n cymunedau. Edrychaf ymlaen hefyd at gefnogi’r gweithgorau a arweinir gan staff a sefydlwyd i fynd i’r afael â’r argymhellion sy’n deillio o Adolygiad Morris i ddiwylliant a gynhaliwyd yn ddiweddar.
“Rwyf wedi cael croeso cynnes gan wasanaeth sydd wedi ymrwymo i newid a gwella. Hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr i ddod a wirfoddolodd i gymryd rhan yn fy niwrnod recriwtio ac asesu. Byddaf yn sicrhau bod cyfathrebu ac ymgysylltu yn parhau i fod yn rhan bwysig o drawsnewid ein Gwasanaeth.”
Croesawodd Stuart Millington, Prif Swyddog Tân GTADC, Mr Mika, gan ddweud:
“Mae’r Gwasanaeth yn wynebu heriau sylweddol o ran ymddiriedaeth staff a hyder y cyhoedd wrth i ni gyflawni’r Rhaglen Drawsnewid. Dylai penodi rhywun o galibr a phrofiad Dominic roi sicrwydd i staff, rhanddeiliaid, a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae e’n dod â phersbectif a phrofiad allanol gwerthfawr gan amrywiaeth o wasanaethau gwisg a golau glas – rhywbeth a hyrwyddir gan Adolygiad Morris.
“Bydd ei gymwysterau helaeth a’i brofiad ymarferol fel arweinydd a rheolwr newid, a’i ymwneud diweddar â chraffu a gwella’r Gwasanaeth Tân, yn amhrisiadwy i ni i gyd.”
Dechreuodd ymrwymiad oes Mr Mika i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ei arddegau fel Cadét Tân, cyn iddo wasanaethu fel Rheolwr gyda’r Môr-filwyr Brenhinol cyn dilyn gyrfa weithredol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Canolbarth Lloegr, a rolau gyda Choleg y Gwasanaeth Tân ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.
Fel cydawdur y Cod Moeseg Craidd Cenedlaethol, mae wide ymrwymo i wella diwylliant y Gwasanaeth Tân trwy feithrin amgylchedd cydweithredol lle mae pob aelod o’r tîm yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cefnogi.
ENDS
Nodiadau i Olygyddion
Cefndir proffesiynol Dominic Mika: linkedin.com/in/dominicmika