Os bydd tân yn eich fflat, dylech chi wneud hyn:

  • Cymerwch eich llwybr arferol allan – OND peidiwch â defnyddio’r lifft. Os na allwch ddefnyddio’r grisiau’n ddiogel ar eich pen eich hun ewch i fan lloches neu fan diogel (e.e., fflat cymydog) a ffoniwch 999.
  • Peidiwch â stopio i weld beth sydd wedi digwydd na cheisio achub eiddo – ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999 pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
  • Caewch ddrws yr ystafell sydd ar dân bob amser, bydd hyn yn arafu lledu tân a mwg.
  • Ewch i gyfarfod â’r gwasanaeth tân pan fyddant yn cyrraedd i roi gwybodaeth iddynt am leoliad y tân.

 

Os bydd tân rhywle arall yn eich adeilad:

  • Dilynwch eich gweithdrefnau gwacáu adeiladau
  • Os bydd eich trefn adeiladau yn dweud am aros yn llonydd, arhoswch yn eich fflat oni bai bod mwg neu fflamau’n dod i mewn. Os oes angen i chi ddianc ffoniwch 999 ac arhoswch am gyfarwyddiadau.
  • Os bydd eich trefn adeiladau yn dweud am wacáu, gwnewch hynny’n dawel ac yn ddiogel. Os na allwch ddianc am unrhyw reswm, ewch i le sy’n glir o fwg a ffoniwch 999.
  • Os bydd diffoddwyr tân angen i chi wacáu byddant yn cysylltu â chi
  • Gwrandewch ar (gorsaf radio leol) a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich strategaeth gwacáu adeiladau
  • Gwyliwch gyfryngau cymdeithasol GTADC (ychwanegu dolenni) am ddiweddariadau rheolaidd ar y tân ac unrhyw newid i’r strategaeth gwacáu.

 

Os byddwch chi’n cael eich ynysu gan dân:

  • Os bydd eich llwybr dianc wedi’i rwystro gan dân neu fwg, arhoswch mewn ystafell heb fwg, ac yn ddelfrydol ystafell gyda ffenestr sy’n agor a ffoniwch 999
  • Cadwch y drws ar gau a rhowch dywelion neu ddillad gwely ar waelod y drws i rwystro’r mwg
  • Os yw’n ddiogel i chi wneud, ewch i falconi neu ffenestr er mwyn i chi gael eich gweld. PEIDIWCH â neidio
  • Arhoswch i gael eich achub gan ddiffoddwr tân a gwrandewch ar yr holl gyngor a roddir gan yr adran reoli tân

 

Os byddwch chi’n teimlo’n anniogel neu’n ansicr ar unrhyw adeg, ffoniwch 999 am ragor o wybodaeth a chyngor.

 

Beth i’w ddisgwyl

  • Larymau’n seinio. Gall hyn fod yn arwydd i chi adael eich adeilad neu gall fod yn golygu rhywbeth arall. Sicrhewch eich bod yn gwybod a dilynwch eich gweithdrefn gwacáu adeiladau.
  • Sŵn mecanyddol uchel. Os oes system gyda fentiau’n agor yn awtomatig (AOV) wedi’i gosod yn eich adeilad gallwch glywed gwyntyll uchel, mae hyn yn arferol ac yn rhan o’r ffordd y mae’r adeilad yn clirio mwg.
  • Bydd nifer sylweddol o beiriannau tân a diffoddwyr tân yn eich adeilad, peidiwch â dychryn. Mae’n cymryd llawer o ddiffoddwyr tân i ddiffodd tân yn ddiogel mewn adeilad uchel achos bod angen ymdrech gorfforol ychwanegol.
  • Bydd diffoddwyr tân yn sefydlu “pen pont” o dan y llawr yr effeithiwyd arno gan dân. Bydd hon yn ardal brysur a swnllyd.
  • Bydd nifer o beipiau dŵr ar y grisiau, os oes angen i chi adael yr adeilad, byddwch yn ofalus wrth fynd i lawr y grisiau.
  • Llenni mwg. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i atal mwg rhag lledu drwy’r adeilad, gellir eu gwthio o’r neilltu yn ddi-ffwdan er mwyn i chi adael.
  • Cyflau mwg. Os bydd angen i chi fynd drwy fwg i adael eich adeilad bydd diffoddwyr tân yn eich helpu i wisgo cwfl mwg. Bydd hwn yn caniatáu i chi adael yr adeilad yn ddiogel. Byddwch chi’n gallu ei dynnu unwaith y byddwch chi y tu allan yn yr awyr agored lle mae’r aer yn ddiogel.