Chwilio am ein Prif Swyddog newydd

Mae’r chwilio wedi dechrau i ddod o hyd i Brif Swyddog eithriadol i arwain Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru drwy gyfnod o newid diwylliannol a threfniadol sylweddol, ac i ailsefydlu enw da’r Gwasanaeth fel cyflogwr o ddewis a phartner cymunedol dibynadwy.

 

Mae’r pedwar Comisiynydd ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ar y 6ed o Chwefror, wedi treulio’r tri mis diwethaf yn dod i adnabod y Gwasanaeth, ei staff, a’i gymunedau er mwyn creu rôl sy’n bodloni orau anghenion yr holl randdeiliaid.

 

Dywedodd y Comisiynydd Vij Randeniya, cadeirydd Pwyllgor Pobl GTADC: “Mae’n hanfodol bod gan y Prif Swyddog newydd hanes o arweinyddiaeth gref a chynhwysol, gyda’r gallu i adeiladu ar gyflawniadau a sbarduno newid a gwelliant cynaliadwy ill ddau.

 

“Nid ydym mewn unrhyw amheuaeth bod y dasg yn GTADC yn arwyddocaol, â phroffil uchel, a bydd angen arweinydd ymroddedig ac eithriadol. Dyna pam yr ydym wedi ehangu ein chwiliad i gynnwys naill ai Prif Swyddog Gweithredol neu Brif Swyddog Tân gweithredol.

 

“Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru weithlu dawnus sydd wedi ymrwymo i greu diwylliant sy’n gynhwysol ac yn groesawgar i bawb. Bydd angen i’r Pennaeth newydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i feithrin a rheoli cydberthnasau cryf ar draws yr holl staff, cymunedau a rhanddeiliaid.”

 

I gynorthwyo gyda’r chwiliad pellgyrhaeddol hwn, mae’r Comisiynwyr wedi cyflogi ymgynghoriaeth chwiliad gweithredol. Mae gan GatenbySanderson gysylltiad hir â’r sector tân ac achub a dangosodd gryn arbenigedd wrth ddenu maes amrywiol a dawnus o ddarpar ymgeiswyr yn ystod ymgyrchoedd diweddar.

 

A allech chi fod ein Prif Swyddog nesaf? Dysgwch fwy neu gwnewch gais erbyn Dydd Llun y 27ain o Fai yma:  GatenbySanderson