Timau Chwilio ac Achub y DU yn ymgynnull ar gyfer ymarferion hyfforddi yn Ne Cymru
Yr wythnos diwethaf, daeth aelodau timau chwilio ac achub domestig a rhyngwladol y DU at ei gilydd i gynnal hyfforddiant arbenigol iawn ym mhrifddinas Cymru.
Mae timau Chwilio ac Achub Trefol (USAR) a Chwilio ac Achub Rhyngwladol (ISAR) fel arfer yn cael eu defnyddio yn sgil digwyddiadau megis trychinebau naturiol neu weithredoedd terfysgol, ac maent yn gyfrifol am ddod o hyd i bobl sy’n sownd a’u rhyddhau.
Rhwng dydd Llun yr 22ain o Ebrill a Dydd Mercher y 24ain o Ebrill, bu timau o bob rhan o’r DU yn ymgynnull yng Nghaerdydd a Chaerloyw ar gyfer ymarferion hyfforddi, gan deithio o ganolfannau’r gwasanaeth tân yn Swydd Essex, Swydd Caint, Hampshire, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Lincoln, Glannau Mersi, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yr Alban, De Cymru, a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.
Gan ddefnyddio ysbyty’r Mynydd Bychan a Stadiwm Principality Caerdydd ill ddau, cynhaliodd y timau ymarferion cŵn ac ymarferion drôn fel rhan o hyfforddiant arferol sy’n hanfodol i’w cynorthwyo â’u hymdrechion chwilio ac achub. Gyda chymorth wyth ci synhwyro arbenigol iawn ac offer drôn o’r radd flaenaf, bu’r tîm yn ymarfer hyfforddiant chwilio ac achub trefol dros dri diwrnod.
Dywedodd Kevin Dite, Rheolwr Gwylfa Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac aelod o dîm Chwilio ac Achub Trefol a Chwilio ac Achub Rhyngwladol:
“Mae dronau gwahanol yn cael eu defnyddio am wahanol resymau. Mae’r camerâu yn ddefnyddiol ar gyfer chwilio ardal agored, ac mae gan rai allu delweddu thermol, systemau sefydlogrwydd, ac wrth gwrs gallant deithio dros ardaloedd mawr yn llawer cyflymach nag y gallwn ninnau.
“Rydym yn tueddu i wneud yr hyfforddiant hwn bob chwarter blwyddyn, o leiaf. Mae angen cadw’r cŵn yn iach a’u cadw’n ddiogel, ac wrth gwrs, mae sgiliau drôn yn pylu os na chaiff ei ddefnyddio’n aml gan ei fod yn hedfan mor gywrain, felly rydym yn ceisio cynnal yr hyfforddiant mor amled â phosib. Mae hefyd yn bwysig i’r cŵn ddod i arfer â’r dronau; gan fod yr hymian lefel isel yn y cefndir yn factor cyson wrth gynnal eu gwaith hachub.”
Mewn achos o drychineb ar raddfa fawr, mae’n fwy diogel anfon dronau bach i mewn i adeiladau, ac wedyn y cŵn gyda’u synnwyr arogli llym, i chwilio am bobl sydd ar goll. Mae’r cŵn wedi’u hyfforddi i ‘rybuddio’ am berson byw trwy gyfarth nes bod eu triniwr yn cyrraedd a’u gwobrwyo â hoff degan.
Ar ôl i dîm chwilio nodi lleoliad person coll, bydd ganddynt amrywiaeth o offer wrth law i wneud yr ardal yn ddiogel a rhyddhau pobl sy’n sownd. Mae pob achub yn wahanol, ond fe allai gynnwys codi cerrig syrthiedig, torri trwy falurion i helpu rhywun i gyrraedd man diogel, neu ddefnyddio offer codi trwm i greu allanfeydd.
Y llynedd, anfonwyd rhai aelodau o’r timau hyn i Malawi, Moroco, a Thwrci ar ôl i drychinebau cenedlaethol daro’r ardaloedd – gyda’r dronau, y cŵn, a’u trinwyr yn eu lle.
Dywedodd Tristan Bowen, arweinydd tîm ac aelod o dîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol:
“Mae’r cŵn yn ddefnyddiol achos gallan nhw wneud cymaint o waith ag 20 technegydd mewn hanner yr amser. Gallant wasgu eu hunain i’r gwagleoedd lleiaf ac maent wedi cael eu hyfforddi i chwilio am gyrff byw mewn ardaloedd amddifad, gan ddefnyddio eu synnwyr arogli rhyfeddol i ganfod bywyd dynol, a gallant sylwi ar chwys, carbon deuocsid, ôl-eillio neu bersawr, ac ati.
“Mae rhan o’r hyfforddiant hwn yn cynnwys cyflwyno gwahanol senarios posib i weithwyr; gan gynnwys goroesi mewn tywydd oer, llefydd poeth, ardaloedd trefol, canol dinasoedd, neu leoliadau mawr. Mae pawb yn gyfarwydd â’r ffrwydrad a ddigwyddodd yn Arena Manceinion ar ôl cyngerdd Ariana Grande yn 2017, felly’r y nod yw paratoi ein cŵn rhag ofn y byddant yn cael eu defnyddio mewn unrhyw fath o strwythur a allai achosi problemau iddyn nhw o ran y nifer y bobl, graddfa a maint yr adeilad, a’r holl wagleoedd cudd o fewn yr adeilad.
“Rydym yn cael ein danfon i leoliadau rhyngwladol yn eithaf rheolaidd. Rwyf wedi bod yn Nhwrci, Nepal, Haiti, a Christchurch, y Seland Newydd i gynorthwyo ymdrechion rhyddhau rhyngwladol. Fel y gallwch ddychmygu, mae hi’n dipyn o gamp fawr i ni i gyd gael ein cludo yno. Rydym yn cael ein hystyried yn dîm achub trwm gan fod cymaint o offer gyda ni; gan gynnwys technegwyr, meddygon, milfeddygon, trinwyr cŵn, peirianwyr strwythurol – mae’r tîm yn enfawr.
Mae Rheolwr Criw Niamh Darcy a’i chi, Vesper, Malinois, sy’n bedair oed o Wlad Belg, ill dau yn aelodau o dimau Chwilio ac Achub Trefol a Chwilio ac Achub Rhyngwladol. Mae Vesper yn gweithio fel ci chwilio ac achub fel rhan o Wasanaeth Tân ac Achub Glannau Mersi (MFRS), ac mae wedi cael ei anfon i nifer o drychineba. Yr un mwyaf diweddar oedd y daeargrynfeydd 2023 yn Nhwrci a Moroco. Mae Vesper a’i thriniwr, wedi bod yn gyfrifol am leoli nifer o anafusion byw a’u haduno â’u teuluoedd.
Enillodd Vesper hefyd Wobr Ci Arwr Crufts 2024 eleni, o fewn y categori ‘Bywyd Eithriadol Ci Gweithio’ – categori a oedd yn agored i’r gwasanaethau tân, yr heddlu, a’r fyddin.
Dywedodd Niamh:
“Gall Vesper glirio adeilad ar ei phen ei hun a gall ddangos i mi os nad oes angen i ni fynd i mewn i adeilad. Mae’r cŵn hyn yn gwneud llawer iawn o hyfforddiant ystwythder; rydych chi wir angen ci sy’n fanwl iawn yn y math hwn o waith, maen nhw’n rhedeg dros bentyrrau o rwbel ac yn ffocysu ar darged, ac unwaith y bydd y cŵn wedi gwneud eu gwaith rydym yn ymrwymo ac yn canolbwyntio ar ardal i dorri neu rwygo neu godi pethau a sythiodd ar bobl.
“Mae cŵn Malis yn gyffredinol yn frîd deallus iawn. Mae ganddynt alluoedd meddyliol uchel iawn, maent yn ystwyth iawn, ac mae Vesper yn enwedig yn gyfeillgar dros ben ac yn gymdeithasol. Fodd bynnag, hyd yn oed os bydd y cŵn yn dda am chwilio, mae angen iddynt gael profiad o deithio gyda chi, ac mae eisiau stamina arnynt. Gallwn weithio am hyd at 14 awr mewn diwrnod pan fyddwn yn cael ein danfon, ac mae hi’n hyblyg iawn yn hynny o beth.”