Ddydd Sul yr 21ain o Orffennaf, ymgasglodd timau o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd ar gyfer Her flynyddol y Cadetiaid Tân.

Bu 12 tîm o Dde Cymru ac un tîm o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn cystadlu mewn heriau yn ymwneud â diffodd tanau i ennill clod enillwyr Her Cadetiaid Tân – ac roedd y gystadleuaeth yn frwd o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r rhaglen Cadetiaid Tân yn rhoi cipolwg unigryw i bobl ifanc i weithio o fewn gwasanaeth brys. Maent yn cael eu trin fel Ymladdwyr Tân ifanc dan hyfforddiant, gan ddysgu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt yn unol â’u dyletswydd. Mae hyn yn digwydd drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu gorsafoedd tân lleol mewn nosweithiau ymarfer wythnosol gyda’u hunedau. Yna rhoddir y sgiliau hyn ar brawf bob blwyddyn yn Her y Cadetiaid.

Roedd yr heriau’n cynnwys:

  • Gwiriad Diogelwch Rhag Tân yn y Cartref
  • Cydosod Offer
  • Her Trawma
  • Llwybrau cropian offer anadlu
  • Gweithgareddau Tîm
  • Cyflwyniadau
  • Driliau Cyfunol

 

 

 

Er bod y meini prawf yn amrywio o dasg i dasg, barnwyd timau ar eu cyflymder cyffredinol, sgiliau cyfathrebu, anogaeth gan eu cyd-chwaraewyr, cyflwyniad, gwaith tîm, a thechneg gyffredinol.

Cwblhawyd y dasg Cydosod Offer yn yr amser cyflymaf gan dîm Pen-y-bont ar Ogwr, tra bod yr uned o Ferthyr wedi sicrhau’r marciau uchaf am eu hefelychiad o Wiriad Diogelwch Tân yn y Cartref. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr a Malpas yn rhan o’r Her Trawma, ac roedd pedair uned – sef Y Fenni, y Barri, y Rhath a Thonypandy – yn enillwyr ar y cyd yn yr Her Gyflwyno.

Fodd bynnag, un canlyniad amlwg o’r her eleni oedd y gweithgaredd llwybrau cropian OA. Roedd yn ofynnol i bedwar aelod o bob tîm gropian trwy gawell y naill ar ôl y llall, mewn tywyllwch llwyr, a dod allan yn y pen arall. Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i gynllunio i efelychu mordwyo trwy ofod tynn gyda gwelededd cyfyngedig, ac roedd yn dibynnu ar y Cadetiaid yn defnyddio lleisiau i arwain ei gilydd, sy’n rhan o waith arferol Ymladdwr Tân.

Eleni, cwblhawyd yr her cropian mewn 36 eiliad gan y tîm o Dredegar. Mae hwn yn record newydd.

Sylwodd Rheolwr Gwylfa Tom Watson, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Dangosodd ein huned benderfyniad gwirioneddol yn Her y Cadetiaid Tân, ac roeddwn yn falch o lefel y sgiliau oedd gyda nhw. Gan nad ydyn nhw erioed wedi cystadlu mewn Her o’r blaen, fe ddangoson gynnydd mawr o ran yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu hyd yn hyn. Mae’r hyn yr ydym yn dysgu iddynt yn cynnwys hunanddisgyblaeth a gwaith tîm, ac roedd y nodweddion hyn yn wirioneddol amlwg ar y diwrnod.

“Byddwn yn parhau i hyfforddi’n drylwyr ac edrychwn ymlaen at gystadlu eto’r flwyddyn nesaf.”

Daeth y diwrnod i ben gyda seremoni gyflwyno lle rhoddwyd medal i bob un o’r cadetiaid am gymryd rhan, gyda Chadetiaid Tân Malpas, enillwyr cyffredinol y diwrnod yn ennill y tlws.

Roedd her eleni yn chwerwfelys, fodd bynnag, gan fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi colli eu Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid, Donna Crossman, yn ddiweddar ac yn sydyn, mewn digwyddiad traffig ffyrdd trasig ychydig wythnosau ynghynt. Mewn teyrnged i Donna a’r gwaith a gyfrannodd ar draws y sector, enwyd gwobr Her Cadetiaid Tân eleni yn Wobr Donna Crossman.

Dywedodd Amy Jenkins, Rheolwr Cadetiaid Tân GTADC:

“Rwy’n falch dros ben o’r ffordd y bu i bob un o’n Cadetiaid gynrychioli eu Hunedau yn Her y CC, ac mae’n fraint wirioneddol i mi gael arwain digwyddiad y Cadetiaid Tân.

“Gweithiodd pob un o’r cadetiaid yn galed iawn trwy gydol y dydd gan annog ei gilydd trwy’r heriau i’w goresgyn fel tîm.

“Fe wnaeth yr heriau a wynebwyd wella eu sgiliau craidd yn ymarferol ac ar lefel ddamcaniaethol.

“Roedd yn ddiwrnod o ddathlu a chofio hefyd achos colled sydyn iawn Donna Crossman, ein Rheolwr Ieuenctid, felly i fi roedd y diwrnod hwn yn deyrnged i’n Harweinydd Ieuenctid a gafodd ddylanwad mawr ar raglen y Cadetiaid Tân a gwaith ieuenctid ehangach, yn GTADC ac ar lefel genedlaethol.

“Roedd dyfarnu gwobr goffa Donna Crossman i’n tîm buddugol Malpas yn dod â chymaint o lawenydd, balchder a phleser!”

Bydd y Gemau Cadetiaid Cenedlaethol yn cael eu cynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn 2025 ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Gwyliwch ein gwefan i ddarganfod mwy!

Mae rhestr lawn o enillwyr pob her isod:

Gweithgaredd               Tîm Buddugol
Gwiriad Tân yn y CartrefMerthyr Tudful
Cydosod OfferPen-y-bont ar Ogwr
Her TrawmaPen-y-bont ar Ogwr a Malpas
Llwybrau Cropian Offer AnadluTredegar
Gweithgareddau TîmTonypandy
CyflwyniadY Fenni, Y Barri, Y Rhath a Thonypandy
Ymarfer CyfunolCwmbrân
Enillwyr Cyffredinol       Malpas