Rwy’n Berson Cyfrifol am adeilad masnachol: beth sydd angen i mi ei wybod?

Mae ein polisi newydd yn berthnasol i rai adeiladau dibreswyl, busnesau a gweithleoedd. Os nad yw adeilad yr ydych yn gyfrifol amdano ar y rhestr eithrio, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • Os caiff Larwm Tân Awtomatig (LTA) ei sbarduno unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, bydd angen i chi gadarnhau trwy ffonio 999 bod tân yn eich eiddo.
  • Dylech adolygu eich asesiad risg tân a sicrhau ei fod yn gyfredol.

 

Bydd GTADC ond yn anfon ymateb i danau sydd wedi’u cadarnhau mewn adeiladau masnachol yn ystod y cyfnod pan fydd tân yn cael ei gadarnhau neu os yw’r eiddo wedi’i eithrio o’r polisi hwn.

Rwy’n Berson Cyfrifol am adeilad sydd wedi’i eithrio: beth sydd angen i mi ei wybod?

Os yw eich eiddo wedi’i eithrio o’r polisi hwn, sicrhewch fod y sawl sy’n gyfrifol am ffonio GTADC drwy alw 999 os bydd tân, yn ymwybodol o’r eithriad ac yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth honno i GTADC yn yr alwad honno.

Sylwch y bydd pob galwad LTA i danau mewn adeiladau masnachol yn cael ei hystyried cyn i unrhyw ymateb brys gael ei wneud, felly gwnewch yn siŵr bod eich gweithredwyr galwadau yn deall y cyngor uchod yn glir a pheidiwch â chymryd yn ganiataol unrhyw eithriadau.

Polisi larymau tân awtomatig: Cwestiynau cyffredin

 

Pryd fydd y newid hwn mewn polisi ar LTA yn cael ei gyflwyno?

Bydd newid polisi LTA GTADC yn cael ei gyflwyno o Ddydd Llun y 6ed o Ionawr am 09:00 ar draws De Cymru.

 

Seilir strategaeth GTADC ar ddadansoddi data a risg. Mae 99% o’r LTA y mae GTADC yn eu mynychu yn alwadau diangen, nid yn danau. Bydd GTADC yn parhau i fynychu pob tân ar unrhyw adeg o’r dydd pan fydd rhywun yn ffonio 999.

 

Beth fydd GTADC yn ei wneud gyda’r amser a arbedir trwy beidio ag ymateb i rai LTA? 

Bydd yr amser a arbedir o beidio â mynychu rhai galwadau LTA yn rhoi mwy o amser i GTADC ddefnyddio ei adnoddau mewn ffordd fwy effeithlon, effeithiol a chynhyrchiol. Bydd hyn yn helpu i leihau risgiau i gymunedau De Cymru trwy waith atal ac amddiffyn tân ychwanegol a hyfforddiant gweithredol.

 

Ydy adeiladau rhestredig wedi’u cynnwys ym mholisi eithrio GTADC?

Ydynt, mae adeiladau treftadaeth rhestredig yn un o’r categorïau eithrio ar gyfer polisi LTA GTADC. Bydd adeiladau treftadaeth rhestredig yn parhau i dderbyn ymateb i LTA.

 

Beth sydd angen i mi ei wneud os wyf yn berchennog busnes? Beth sydd angen i mi ei wneud i baratoi?

  • Sicrhewch eich bod yn cynnal asesiadau risg tân rheolaidd ac yn rheoli eich eiddo i leihau’r risg o danau, i gadw pobl yn ddiogel ac i leihau effeithiau unrhyw danau.

 

 

  • Os bydd tân wedi’i gadarnhau, sicrhewch fod gennych broses yn ei lle i wacáu’r adeilad yn ddiogel ac i rywun ffonio GTADC (trwy alw 999) i gadarnhau bod tân wedi dechrau.

 

  • Sicrhewch fod yr holl weithwyr neu bobl sy’n defnyddio’r safle yn ymwybodol o’ch prosesau uchod.

 

  • Sicrhewch fod gennych gynllun tân yn ei le a bod yr holl weithwyr yn ymwybodol o’r camau i’w cymryd i atal tân.

 

Ar gyfer cwmnïau derbyn larymau a Phobl Gyfrifol

 

Os bydd LTA adeilad yn seinio a bod unigolyn yn ffonio GTADC i adrodd y larwm, sut bydd GTADC yn ymateb?

Bydd gweithrediad LTA a adroddir i GTADC yn destun proses hidlo galwadau LTA GTADC gan yr Ystafell Reoli. Gofynnir i’r unigolyn sy’n ffonio gadarnhau a oes unrhyw arwydd o dân ac a oes rhywun wedi ymchwilio i’r rheswm dros y larwm. Bydd ein Hystafell Reoli yn cadarnhau at ba ddiben y defnyddir yr adeilad, os yw’n adeilad masnachol neu breswyl, a bydd yr ymatebion hyn yn pennu’r ymateb mwyaf priodol, a byddwn yn hysbysu’r galwr os ydym yn mynychu ai beidio.

 

Sut mae hyn yn newid fy nhrefniadau diogelwch tân?

Mae angen i chi wneud trefniadau i allu gwahaniaethu rhwng LTA sy’n alwadau diangen a’r rhai sy’n danau wedi’u cadarnhau. Bydd GTADC yn anfon ymateb i danau a gadarnhawyd mewn adeiladau masnachol dim ond os caiff tân ei gadarnhau neu os yw’r eiddo wedi’i eithrio o’r polisi hwn.

Os yw eich eiddo wedi’i eithrio o’r polisi hwn, yna sicrhewch fod y sawl sy’n gyfrifol am ffonio GTADC drwy alw 999 os bydd tân, yn ymwybodol o’r eithriad ac yn gallu trosglwyddo’r wybodaeth honno yn yr alwad honno.

Sylwch y bydd pob galwad LTA i danio mewn adeiladau masnachol yn cael ei hystyried cyn i unrhyw ymateb brys gael ei wneud, felly gwnewch yn siŵr bod eich gweithredwyr galwadau yn deall y cyngor uchod yn glir a pheidiwch â chymryd yn ganiataol unrhyw eithriadau.

 

Sut dylai canolfan derbyn larymau ymateb i LTA mewn adeilad gwag?

Os yw adeilad yn wag, dylai fod gan y Person Cyfrifol drefniadau yn eu lle gyda’u Canolfan Derbyn Larymau (CDL) ar gyfer hidlo signalau larwm tân cyn anfon galwad ymlaen i GTADC.

 

Os bydd dau ganfodydd mwg neu ganfodydd gwres neu fan galw â llaw neu switsh llif taenelli’n actifadu, a fyddai hyn yn cael ei ystyried yn ‘Dân wedi’i Gadarnhau’?

Nid yw mwyafrif y galwadau LTA a dderbynnir gan GTADC yn cynnwys y math hwnnw o wybodaeth ac mae 99% o’r LTA yn alwadau diangen, nid yn danau. Fodd bynnag, mae Gweithredwyr Rheoli GTADC yn dda am adnabod galwadau ac adnabod pan fo galwadau o ganlyniad i larymau awtomatig yn hytrach na galwadau tân a gadarnhawyd. Bydd GTADC yn parhau i fynychu pob tân a gadarnhawyd. Bydd cadarnhad o actifadu switsh llif taenellu hefyd yn derbyn ymateb.

 

Ydyn ni’n rhoi hyfforddiant i fusnesau ac eiddo preswyl?

Na, nid yw cyfrifoldeb hyfforddi staff ar gyfer eiddo masnachol yn dod o dan gylch gorchwyl GTADC. Os ydych yn berchen ar fusnes, yn ei reoli neu’n ei gynnal, mae angen i chi gydymffurfio â chyfraith diogelwch tân. Y brif gyfraith yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 neu’r “Gorchymyn Diogelwch Tân”. Mae’n berthnasol ledled Cymru a Lloegr a daeth i rym ar y 1af o Hydref 2006. Fel rhan o’ch cyfrifoldebau o dan y Ddeddf, mae angen i chi sicrhau bod Gweithwyr yn cael hyfforddiant diogelwch tân digonol.

 

Beth os nad yw fy asesiad risg tân yn cynnwys y newid hwn?

Dylai pob asesiad risg tân presennol a threfniadau rhagofalon tân cyffredinol ar gyfer eiddo masnachol fod ar sail gwacáu heb fod angen ymyrraeth gan y gwasanaeth tân ac achub.

 

Os oes gennym synwyryddion amlsynhwyraidd a fyddai hyn yn dileu’r angen am alwadau 999 mewn perthynas ag LTA ac a fyddai hyn yn golygu presenoldeb awtomatig gan GTADC, gan y byddai’n cael ei drin fel tân wedi’i gadarnhau?

Mae angen i chi wneud trefniadau i allu gwahaniaethu rhwng LTA sy’n alwadau diangen a’r rhai sy’n danau wedi’u cadarnhau. Bydd GTADC yn anfon ymateb i danau a gadarnhawyd mewn adeiladau masnachol dim ond os caiff tân ei gadarnhau neu os yw’r eiddo wedi’i eithrio o’r polisi hwn.

Os oes gan eich eiddo synwyryddion lluosog yn actifadu, yna sicrhewch fod y person sy’n gyfrifol am alw yn trosglwyddo’r wybodaeth honno i GTADC yn yr alwad.

Sylwch y bydd pob galwad LTA i danio mewn adeiladau masnachol yn cael eu hystyried cyn y gwneir unrhyw ymateb brys, felly sicrhewch fod eich gweithredwyr galwadau yn deall y cyngor uchod yn glir a pheidiwch â chymryd yn ganiataol unrhyw ymateb awtomatig.

 

All canolfannau derbyn larymau nodi’r ddyfais sy wedi seinio, neu a ydy’r rhan fwyaf yn gallu adrodd signal larwm tân cyffredinol yn unig?

Mae’r trefniadau hyn yn niferus ac amrywiol, felly nid oes un ateb unigol.

Mae angen i bersonau cyfrifol wneud trefniadau i sicrhau y bydd canolfannau derbyn larymau yn gallu gwahaniaethu rhwng larymau tân awtomatig sy’n alwadau diangen a’r rhai sy’n danau wedi’u cadarnhau. Bydd GTADC yn anfon ymateb i danau a gadarnhawyd mewn adeiladau masnachol dim ond os caiff tân ei gadarnhau neu os yw’r eiddo wedi’i eithrio o’r polisi hwn.

 

Ble gallaf ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnaf?

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth ar ein tudalen Diogelwch Rhag Tân i Fusnesau.