Perchnogion busnes: sut y gallwch chi helpu i leihau larymau tân diangen neu signalau tân diangen
Perchnogion busnes: sut y gallwch chi helpu i leihau larymau tân diangen neu signalau tân diangen
Rydym gefnogi gosod systemau larwm tân awtomatig yn llwyr, ond mae’n rhaid i’r systemau hyn gael eu rheoli a’u cynnal a’u cadw’n briodol er mwyn lleihau nifer y galwadau diangen a sicrhau eu bod yn canu ar yr adeg gywir ac yn sicrhau’r ymateb cywir.
Rhaid i chi weithio gyda’ch asesydd risg tân a diweddaru eich asesiad risg tân gydag unrhyw newidiadau.
Mae camau allweddol eraill yn cynnwys:
Adolygu eich asesiad risg diogelwch tân a chadw cofnod o’r holl alwadau diangen i nodi unrhyw gynnydd a/neu dueddiadau y dylid eu codi gyda’ch peirianwyr larymau
Creu cynllun gweithredu i leihau’r tebygolrwydd o gael rhybudd ffug
Gwirio’r mathau o synwyryddion a’u lleoliadau – a fyddai symud synwyryddion neu newid y math a ddefnyddir yn lleihau actifadu? Ceisiwch gyngor gan eich peiriannydd larymau
Uwchraddio systemau canfod tân awtomatig (SCTA) sydd wedi darfod â thechnoleg fwy modern, e.e. synwyryddion ‘aml-synhwyro’
Cynnal systemau canfod tân awtomatig yn briodol
Gosod mannau galw â llaw gyda gorchuddion plastig amddiffynnol mewn ardaloedd lle mae problemau, ardaloedd agored i niwed neu lle mae traffig uchel
Canfod a oes unrhyw alwadau diangen o ganlyniad i actifadu’r pwyntiau galw anghywir, megis mannau rhyddhau drysau brys gwyrdd
Ystyried a oes angen cyswllt â chanolfan derbyn larymau, neu a yw’n briodol i atal y swyddogaeth deialu awtomatig tra bod adeiladau’n cael eu defnyddio, neu ar adegau penodol o’r dydd.
Ceisio arweiniad a chyngor pellach gan eich darparwr system larwm neu asiant gwasanaethu yn ogystal â swyddog diogelwch tân Busnes ein gwasanaeth.
Gellir gwella diogelwch eich eiddo busnes a’r bobl ynddo yn fawr drwy osod system synhwyro tân a larwm awtomatig. Pan gaiff ei osod, ei ddefnyddio a’i gynnal yn briodol, gall fod yn ffactor pwysig o ran lleihau’r perygl i fywyd a chyfyngu ar ddifrod i’ch eiddo, oherwydd ei ymateb cyflym wrth ganfod tân. Yn anffodus, gall yr union nodweddion sy’n darparu’r ymateb cyflym hwn hefyd greu larymau ffug, o ffynonellau eraill, megis coginio, stêm, ysmygu, ac ati.
Beth yw larwm ffug?
Mae larwm ffug yn signal larwm tân o System Synhwyro Tân a Larwm Awtomatig, oherwydd achos heblaw tân gwirioneddol.
Pwy sy’n gyfrifol am leihau galwadau ffug?
Os taw chi yw’r ‘person cyfrifol’ mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi i reoli mesurau diogelwch tân yn eich eiddo. Gall methu â gwneud hynny yn fedrus arwain at erlyniad o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Systemau Synhwyro a Larymau Tân awtomatig priodol wedi’u gosod (lle bo angen) a bod y safle, y cyfleusterau, y cyfarpar a’r dyfeisiau yn cael eu cynnal yn effeithiol ac yn rheolaidd a’u bod yn gweithio’n iawn er mwyn sicrhau diogelwch y bobl yn y safle. Rhaid i’r person cyfrifol hefyd, lle bo angen, enwebu person cymwys i weithredu’r mesurau hyn.
Effaith bosib galwadau ffug ar eich busnes
Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn amcangyfrif bod cost galwadau ffug yn y DU tua £1,000,000,000 y flwyddyn. Mae llawer o’r gost hon yn deillio o golli cynnyrch ac ymyriadau mewn gweithgareddau busnes.
Amharu sylweddol ar effeithiolrwydd busnes, effeithlonrwydd, proffidioldeb a gwasanaethau.
Mae larymau ffug sy’n canu’n aml mewn adeilad yn gallu achosi i staff fod yn hunanfodlon ac yn llai parod i ymateb pan fydd y larwm tân yn canu mewn achos gwirioneddol.
Effaith galwadau ffug ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Mae galwadau ffug yn effeithio ar Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru drwy:
Dargyfeirio gwasanaethau hanfodol o argyfyngau go iawn (rhoi bywyd ac eiddo mewn perygl)
Risg ddiangen i griwiau tân a’r cyhoedd wrth ymateb i larymau ffug.
Tarfu ar weithgareddau lleihau risg (e.e. addysg, gwiriadau diogelwch yn y cartref, ymgysylltu â’r gymuned, arolygiadau ac ati).
Tarfu ar hyfforddiant personél gweithredol.
Yr effaith ar yr amgylchedd yn sgîl symudiadau diangen gan gerbydau (e.e. sŵn, allyriadau CO2, ac ati).
Defnyddio cyllid cyhoeddus
Sut allwch chi atal galwadau ffug?
Os yw eich system yn cael ei monitro, cyn profi neu wneud unrhyw waith cynnal a chadw ar eich System Synhwyro a Larwm Tân Awtomatig, rhaid i chi roi gwybod i’r Ganolfan sy’n derbyn larymau bod y profion a’r gwaith cynnal a chadw yn digwydd a’u hysbysu eto ar ôl ei gwblhau.
Sicrhau bod y contractwr a ddefnyddir i osod a/neu gynnal a chadw wedi’i ardystio gan drydydd parti, gan sicrhau cymhwysedd. Dylai hyn sicrhau bod y system wedi cael ei chynllunio a’i bod hi’n cael ei gwasanaethu’n briodol.
Ystyried amnewid synwyryddion ag un synhwyrydd am synwyryddion gydag aml-synwyryddion. Mae’r rhain yn gallu adnabod ffenomenau eraill (fel stêm) ac ni ddylent actifadu’r larwm yn ddiangen.
Defnyddio synwyryddion priodol wedi’u cymeradwyo a leolir yn gywir, gan sicrhau bod y system yn gweithredu’n gywir.
Ystyried ail-leoli unrhyw bennau synwyryddion neu fannau galw â llaw amhriodol os ydynt yn creu larymau ffug, yn dilyn cyngor gan asesydd risg tân cymwys
Defnyddio gorchuddion amddiffynnol sy’n cynnwys mannau galw â llaw wedi’u cymeradwyo gydag arwyddion a theledu cylch cyfyng lle bo angen.
Gwella rheoli contractwyr, sicrhau eu bod wedi cael eu hachredu gan drydydd parti ar gyfer y gwasanaeth a ddarperir. Dylai hyn sicrhau bod y system yn cael ei chynnal a’i chadw’n fwy trwyadl yn ogystal â rhoi cyngor ac argymhellion da i chi.
Sicrhau y darperir hyfforddiant digonol i’r rhai a fydd yn cynnal profion wythnosol a gwiriadau cyfnodol.
Addysgu eich staff mewn perthynas â lleihau galwadau ffug
Hefyd, sicrhau:
Eich bod chi’n cysylltu â’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn syth (gan ddefnyddio 999) os byddwch chi’n canfod galwad ffug i atal y peiriannau tân rhag mynychu heb fod angen.
Bod eich Asesiad Risg Tân yn gyfredol ac yn adlewyrchu defnydd ac amodau presennol eich safle.
Bod y System Synhwyro a Larwm Tân Awtomatig wedi’i chynllunio, ei gosod a’i chomisiynu’n gywir a’i rheoli, ei phrofi a’i chynnal a’i chadw’n briodol
Bod achosion galwadau ffug yn cael eu harchwilio a bod camau unioni priodol yn digwydd lle y bo angen.
Bod larymau ffug yn cael eu cofnodi yn y llyfr log larymau tân ynghyd ag unrhyw gamau adferol a gymerir.
Bod eich gweithdrefnau’n cynnwys dynodi staff penodol sydd wedi cael hyfforddiant addas i wirio a oes tân go iawn ar gael pan fydd y larwm tân yn cael ei actifadu.
Bod personau cymwys yn cael eu penodi i gynorthwyo’r ymchwiliad i’r actifadu larymau. Dylent feddu ar ddealltwriaeth o’r system larwm a bod yn hyderus o ran eu gallu i gynnal yr ymchwiliad.
Sut i ymchwilio i actifadu larwm yn ddiogel
Mae cael gweithdrefn ymchwilio effeithiol ar gyfer adegau pan fo’r System Synhwyro a Larwm Tân Awtomatig yn gallu cyfyngu ar y tarfu a achosir i’ch busnes gan larymau ffug. Mae Systemau Synhwyro Tân a Larymau Awtomatig yn ardderchog o ran canfod tân yn y camau cynnar. Drwy gael strategaeth i ymchwilio i achos actifadu yn syth ar ôl iddo ddigwydd, gall eich staff nodi larymau ffug yn gyflym, ailosod y system a dychwelyd i’r gwaith Os byddwch yn darganfod tân neu fwg fel rhan o’ch ymchwiliad, peidiwch â rhoi eich hun nac eraill mewn perygl. Ewch o’r lleoliad yn gyflym ac yn ddiogel, Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub. Dylech gysylltu â’ch asesydd risg tân mewn perthynas â’r uchod. Ailosod y larymau SYLWER: Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ailosod systemau synhwyro a larymau tân awtomatig. Gallai ailosod y system heb ymchwiliad priodol leihau effeithiolrwydd yr ymchwiliad dilynol i achos y ffug larwm gan beiriannydd cymwys. Dylech gysylltu â’ch Asesydd Risg Tân mewn perthynas â’r uchod.
Ailosod larymau
Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ailosod Systemau Synhwyro a Larymau Tân Awtomatig. Gallai ailosod y system heb ymchwiliad priodol leihau effeithiolrwydd yr ymchwiliad dilynol i achos y ffug larwm gan beiriannydd cymwys. Arweiniad pellach Am gyngor ychwanegol ar leihau nifer y larymau ffug, cysylltwch â’ch asesydd risg tân a’ch cwmni cynnal a chadw larymau tân.
Gellir dod o hyd i gyngor ychwanegol ar y dolenni isod: