Sut mae hyn yn gweithio mewn perthynas ag adeiladau aml-ddefnydd?

Bydd pob galwad LTA i GTADC yn cael eu hystyried trwy ein proses hidlo galwadau ac os oes unrhyw arwydd bod llety cysgu, anheddau preifat neu eiddo eithriedig eraill yn cael eu heffeithio, bydd ymateb gan GTADC yn cael ei ddanfon. Bydd hyn yn cael ei benderfynu gan y gweithredwr galwadau, ond nid oes unrhyw ffordd o benderfynu a yw unrhyw eiddo penodol yn ddefnydd cymysg oni bai bod y gweithredwr yn cael ei hysbysu yn yr alwad gychwynnol. Dylai fod gan Ganolfannau Derbyn Larymau (ARC) sy’n rheoli ac yn trosglwyddo galwadau larwm tân ddata sylfaenol am y safle y mae’r signal larwm tân yn tarddu ohono.

Mae’n bosibl na fydd LTA sy’n actifadu heb unrhyw arwydd o dân mewn siop yn denu ymateb yn ystod oriau’r dydd, ond dylai unrhyw lety preswyl fod â gwahaniad tân addas rhag unrhyw elfennau masnachol o’r adeilad. Fodd bynnag, os bydd tân yn cael ei gadarnhau, danfonir ymateb.

 

Sut ydyn ni’n gwybod ble mae’r holl adeiladau aml-ddefnydd?

Mae hon yn wybodaeth nad yw GTADC o reidrwydd yn ei chadw at ddibenion danfon, fel arfer ceir y wybodaeth gan y galwr.

 

Ydyn ni’n gwybod a yw’r larwm yn dod o’r busnes neu’r rhan breswyl?

Mae pob system yn wahanol, a dim ond i’r wybodaeth a roddir i ni y gall GTADC ymateb. Bydd pob galwad LTA i ni yn cael ei hystyried trwy ein proses hidlo galwadau, ac os oes unrhyw arwydd bod llety cysgu, anheddau preifat neu eiddo eithriedig eraill yn cael eu heffeithio, anfonir ymateb.

 

Os bydd ysgol yn wag pan anfonir y signal tân i’r Canolfannau Derbyn Larymau, a fydd GTADC yn mynychu pan nad oes neb ar y safle i gadarnhau’r tân?

Ni fydd ysgolion, colegau a phrifysgolion yn cael ymateb i LTA yn ystod y dydd neu’r nos. Bydd GTADC yn anfon ymateb i danau a gadarnhawyd neu os yw’r eiddo wedi’i eithrio o’r polisi hwn yn unig. Mae erthygl fanwl ar reoli diogelwch tân mewn ysgolion ar gael yma……

https://www.thefpa.co.uk/news/school-assessments