Digwyddiad Diogelwch Dŵr Pont Blackweir

Daeth plant a phobl ifanc ynghyd i ddysgu sut i gadw eu hunain yn ddiogel mewn digwyddiad ymgysylltu diogelwch dŵr, a gynhaliwyd gydag Ymladdwyr Tân ym Mhont Blackweir, Caeau Pontcanna.

Aeth Tîm Ymateb Brys y Wylfa Wedd, a leolir yng Ngorsaf Dân Caerdydd Canolog, i’r dŵr i ddangos i bobl ifanc sut mae achub o’r dŵr yn cael ei wneud, ac i ddangos sut mae defnyddio offer diogelwch hanfodol.

Trefnwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad â Heddlu De Cymru a chydweithwyr o Gyngor Caerdydd, ac fe’i cynhaliwyd ar y 14eg o Awst yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth ac addysgu aelodau iau’r gymdeithas am beryglon dŵr.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwylfa Gareth Burnett: “Mae diogelwch dŵr yn ddyletswydd statudol ar y Gwasanaeth Tân ac yn rhan greiddiol o’n rôl o ddydd i ddydd.

“Mae lawer o risgiau a pheryglon yn gysylltiedig â dŵr nad yw pobl yn ymwybodol ohonynt.

“Gall llifogydd sydyn a glaw trwm ddod â llawer iawn o ysbwriel i lawr yr afon. Gall dŵr rhedegog ymddangos yn llonydd ar yr wyneb ond gall ffurfiannau naturiol a gwrthrychau peryglus gael eu cuddio oddi tano.

“Gall alcohol fod yn ffactor hefyd, yn ogystal â phobl yn neidio i mewn  nôl anifeiliaid anwes yn ogystal â pheryglon sioc dŵr oer.”

Mae’r Tîm Categori C wedi’i hyfforddi’n drylwyr i ymateb i ddigwyddiadau cysylltiedig â dŵr mewndirol, mewn amgylchiadau amrywiol ddydd neu nos, o gwmpas Caerdydd a’r cyffiniau.

Safodd mewn llinell ac ymuno wrth gymryd eu tro i ddefnyddio llinellau taflu ac ymarfer achub nofiwr o’r afon.

Dangosodd y criw sut i lansio sled a hefyd dechnegau i dynnu claf i’r lan gan ddefnyddio llinell densiwn.

“Rydym hefyd wedi dangos i blant y gwahanol ddulliau o fynd at bobl yn y dŵr, er enghraifft, dim ond os yw’r claf yn ymwybodol ac yn gallu dal ei afael y gallwn ddefnyddio llinellau taflu. Rydym wedi dangos felly sut y byddem yn mynd ati pe nid yw’r person yn ymateb,” sylwodd Burnett wrth gloi.

Roedd y rhai a fynychodd y digwyddiad yn cynnwys Jan Hargreaves, a ddaeth â’i phedwar o wyrion gyda hi.

“Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych i’r plant – maen nhw wrth eu bodd!” eglurodd hi.

“Nid ydym erioed wedi mynychu’r math hwn o ddigwyddiad o’r blaen ond rwy’n meddwl ei bod mor bwysig i blant ddysgu diogelwch o gwmpas dŵr.

“Yn fwy na dim, maen nhw wir wedi mwynhau ymarfer defnyddio’r llinell daflu, ac rwy’n falch ein bod ni’n gallu dod yma heddiw.”

Cafwyd cymorth Wardeniaid Cyngor Caerdydd, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a chydweithwyr o’r heddlu i addysgu ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y digwyddiad, gyda thaflenni a llenyddiaeth diogelwch dŵr sy’n addas i blant.

Dywedodd SCCH Rachel Griffiths: “Mae digwyddiad heddiw wedi mynd yn dda iawn. Daeth nifer dda o’r ddemograffeg gywir – pobl ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau.

“Mae bob amser gynnydd sydyn mewn digwyddiadau’n gysylltiedig â diogelwch dŵr yn ystod misoedd y Gwanwyn a’r Haf – yn enwedig ymhlith y grŵp oedran hwn – felly mae trefnu a mynychu digwyddiadau addysgol o’r math mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Tân yn bwysig dros ben.”

Eglurodd Dave Sultana, Rheolwr Wardeniaid Cyngor Dinas Caerdydd: “Mae’n ddefnyddiol iawn i’m tîm wybod beth i’w wneud a beth i’w wneud o gwmpas dŵr bas, ers ailagor Camlas Ffordd Churchill.

“Mae nifer dda iawn wedi dod yma heddiw, gyda llawer o ymgysylltu â phobl sy’n cerdded heibio yn ogystal â phobl a ddaeth yn benodol i’r hyfforddiant diogelwch dŵr, ond mae hefyd yn bwysig iawn i ni weithio’n agos a datblygu partneriaethau da gyda’r asiantaethau golau glas, megis GTADC,” dywedodd wrth orffen.