Gweithio Allan gyda’r Wylfa
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn cynnal sesiynau ‘Gweithio Allan gyda’r Wylfa’!
Bydd Gweithio Allan gyda’r Wylfa yn rhoi mewnwelediad i rolau Diffoddwyr Tân a bywyd gorsaf, yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi brofi eich galluoedd a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y rôl.
Mae’r sesiynau hyn yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rôl Diffoddwr Tân System Ar Alwad neu Ddyletswydd Llawn Amser yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Byddwch yn cyfarfod â chriwiau ac yn rhoi cynnig ar nifer o brofion ffitrwydd, driliau a sesiynau ymarfer corff – felly gwisgwch y cit priodol a pheidiwch ag anghofio dod â dŵr!
Mae gennym sesiwn yn rhedeg yn –
Os na allwch fynychu’r sesiwn yr ydych wedi’i harchebu mwyach, am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni fel y gallwn ailddyrannu’r lle drwy gysylltu â: media@southwales-fire.gov.uk