Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt

Wrth i Noson Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt agosáu, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn paratoi ar gyfer amser prysur, gyda’r nod o wneud De Cymru’n fwy diogel drwy leihau risg yn ystod y cyfnod peryglus hwn.

Rhwng 2022 a 2023, gwelodd GTADC gynnydd o 24% o ran digwyddiadau bwriadol yn ystod cyfnod 2 wythnos o gwmpas Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Mae’r risgiau sy’n ymwneud â choelcerthi a thân gwyllt yn hysbys iawn, ac mae’r Gwasanaeth yn hyrwyddo ei negeseuon allweddol ynghylch diogelwch a lles bob blwyddyn mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Eleni, y neges gyffredinol yw “Byddwch yn effro, peidiwch â chael eich brifo” yn ystod y tymor Calan Gaeaf a thân gwyllt.

 

Arddangosfeydd a drefnwyd ymlaen llaw

Mae diffoddwyr tân ac awdurdodau lleol yn cynnal arddangosfeydd tân gwyllt a drefnwyd ymlaen llaw ar gyfer 2024, i wneud yn siŵr y gallwch chi fwynhau noson tân gwyllt yn ddiogel.

Dyma rai o’r arddangosfeydd a drefnwyd y mae GTADC yn eu cefnogi eleni:

  • Bydd Gorsaf Dân ac Achub Glyn Ebwy yn cefnogi arddangosfa Tân Gwyllt a drefnwyd ym Mharc Eugene Cross Ddydd Sul, y 3ydd o Dachwedd 2024. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

  • Bydd Gorsaf Dân ac Achub Gilfach Goch yn cynnal eu harddangosfa a drefnwyd eu hunain ym Mharc Tyn y Bryn, Tonyrefail Ddydd Sul y 3ydd o Dachwedd 2024. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

  • Bydd Gorsaf Dân ac Achub yr Eglwys Newydd yn cynnal eu harddangosfa a drefnwyd eu hunain yng Ngorsaf Dân yr Eglwys Newydd Ddydd Mawrth y 5ed o Dachwedd 2024. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

  • Bydd Gorsaf Dân ac Achub Treorci yn cynnal eu harddangosfa a drefnwyd eu hunain yng Ngorsaf Dân Treorci Ddydd Mawrth y 5ed o Dachwedd 2024. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Dilynwch ein hawgrymiadau gwych ar gadw’n ddiogel dros Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt –

Calan Gaeaf 

  • Mae pwmpenni yn rhan annatod o dymor Calan Gaeaf, a gall cerfio pwmpen fod yn hwyl. Er eu bod yn draddodiadol yn cynnwys canhwyllau i oleuo eu hwynebau brawychus, rydym yn argymell newid i oleuadau batri fel opsiwn mwy diogel.
  • Mae Calan Gaeaf yn achlysur gwych i addurno eich cartref gyda phob math o addurniadau arswydus. Mae llawer o gartrefi yn defnyddio canhwyllau yn eu haddurniadau i ychwanegu at yr awyrgylch iasol.  Byddem bob amser yn argymell eich bod yn defnyddio goleuadau batri yn y lle cyntaf, ond os dewiswch ddefnyddio canhwyllau, mae’n bwysig bod yn wyliadwrus o ran eu lleoliad ac unrhyw addurniadau eraill o’u cwmpas. Dylai canhwyllau gael eu hynysu ddigon fel nad ydyn nhw’n achosi unrhyw berygl, felly gwnewch yn siŵr bod addurniadau eraill neu ddarnau sy’n hongian yn cael eu cadw’n bell i ffwrdd o’r fflamau noeth.
  • Sicrhewch fod canhwyllau yn sownd mewn daliwr priodol ac yn bell i ffwrdd o ddeunyddiau a allai fynd ar dân – megis llenni. Diffoddwch ganhwyllau yn gyfan gwbl pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell. Defnyddiwch ddiffoddydd arbennig neu lwy i ddiffodd canhwyllau, mae’n fwy diogel na’u chwythu allan gan y gall gwreichion hedfan. Cofiwch, ni ddylai plant byth gael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chanhwyllau ynghyn.
  • Byddwch yn wyliadwrus o’r deunyddiau a ddefnyddir mewn gwisgoedd Calan Gaeaf. Mae deunyddiau synthetig yn llawer mwy fflamadwy na deunyddiau naturiol, felly chwiliwch am wisgoedd sy’n cynnwys cotwm, sidan neu wlân. Bydd deunyddiau synthetig yn fwy tebygol o fynd ar dân.

Noson Tân Gwyllt

  • Sicrhewch fod yr holl dân gwyllt yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cymeradwy.
  • Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi’n cynnau tân gwyllt.
  • Cadwch dân gwyllt mewn blwch caeedig, a dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus bob amser wrth eu defnyddio.
  • Daliwch dân gwyllt hyd fraich wrth eu cynnau, gan ddefnyddio tapr, a safwch ymhell yn ôl.
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt ar ôl iddynt gael eu cynnau. Hyd yn oed os nad yw tân gwyllt wedi diffodd, fe allai ffrwydro o hyd.
  • Peidiwch byth â thaflu tân gwyllt, a pheidiwch byth â’u rhoi yn eich poced.
  • Parchwch eich cymdogion – peidiwch â chynnau tân gwyllt yn hwyr yn y nos.
  • Byddwch yn ofalus gyda ffyn gwreichion – peidiwch byth â’u rhoi i blant dan bump oed.
  • Hyd yn oed pan fydd ffyn gwreichion wedi diffodd, maent yn dal yn boeth – felly rhowch nhw mewn bwcedaid o ddŵr ar ôl eu defnyddio.
  • Cadwch eich anifeiliaid anwes dan do tra bod tân gwyllt ynghyn.