Wythnos Hinsawdd Cymru 2024

Cynhelir Wythnos Hinsawdd Cymru rhwng 11eg a 15fed Tachwedd 2024 a bydd yn dod â rhanddeiliaid traws-sector ynghyd i drafod ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Gyda digwyddiadau tywydd eithafol yn cynyddu, mae’n hanfodol bod Cymru’n addasu ei chartrefi, ei chymunedau a’i busnesau ar gyfer tywydd poeth, sychder, stormydd a llifogydd.

Y gynhadledd rithwir yw man lansio Wythnos Hinsawdd Cymru 2024. Mae’n rhad ac am ddim ac yn hygyrch i unrhyw un â diddordeb mewn trafod atebion ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd y sesiynau yn ymdrin â phynciau megis:

  • Addasu i dywydd eithafol: paratoi ar gyfer tywydd poeth, stormydd a llifogydd.
  • Diogelu systemau cynhyrchu bwyd: atgyfnerthu ein cadwyni cyflenwi bwyd.
  • Isadeiledd hydwyth: sicrhau bod ein trefi, dinasoedd a chymunedau yn barod ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.

Mae ymatebion strategol i newid yn yr hinsawdd yn perthyn yn fras i ddau gategori – lliniaru ac addasu – ac mae rhyngddibyniaethau a chyfaddawdau yn perthyn i’r ddau.

Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym ni, fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn gweithio tuag at statws carbon ser net erbyn 2030 – gan leihau allyriadau carbon o fewn ein hadeiladau, ein fflyd a’n cadwyn gyflenwi a gwrthbwyso allyriadau na ellir eu lleihau ymhellach drwy fuddsoddi mewn tynnu carbon o’r atmosffer. Lliniaru newid hinsawdd yw hwn – gwneud ein rhan i leihau ein hallyriadau er mwyn lleihau effeithiau newid hinsawdd.

Ymaddasu i newid yn yr hinsawdd yw’r newidiadau a’r addasiadau rydym yn eu rhoi ar waith wrth ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae rhai newidiadau eisoes wedi eu penderfynu’n bendant ac ni fydd ymdrechion lliniaru yn dylanwadu arnynt. Fodd bynnag, gellir osgoi llawer o effeithiau a ragwelir yn gyfan gwbl, neu eu lleihau’n sylweddol trwy ymdrechion lliniaru.  I ni, bydd hyn yn cynnwys newid sut a pha mor aml rydym yn ymateb i lifogydd, tanau gwyllt, a digwyddiadau eraill sy’n gysylltiedig â gwres a thywydd eithafol. Bydd hefyd yn golygu diogelu ein hasedau a’n gweithlu at y dyfodol ar gyfer newidiadau a ragwelir ac yn barod ar gyfer newidiadau tebygol.

Er hyn mae gwaith enfawr i’w wneud o hyd drwy liniaru – gall ein gweithredoedd fel sefydliad ac ar y cyd fel unigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r math o fyd y byddwn ni, a chenedlaethau’r dyfodol, yn byw ynddo.

Mae gennym ni gyfrifoldebau hefyd wrth weithio gyda phobl ar lawr gwlad. Mae pobl yn ymddiried ynom, a gallwn eirioli dros ein cymunedau ar faterion diogelwch a thegwch wrth i ni addasu i fyd sy’n cynhesu a’i oblygiadau, yn enw lleihau risg, codi ymwybyddiaeth a gwarchod yr amgylchedd.

Yn 2025, byddwn yn parhau â’n hymdrechion lliniaru a byddwn hefyd yn cynllunio ar gyfer sut y i barhau i wasanaethu ein cymunedau, hyd yn oed gan ystyried tueddiadau hinsawdd, cymdeithasol-ddiwylliannol a seilwaith.

Sut alla i gymryd rhan yn yr Wythnos Hinsawdd?

  • Cofrestrwch am ddim: Ewch i wefan Wythnos Hinsawdd Cymru i sicrhau eich lle
  • Cynlluniwch eich amserlen: ymchwiliwch bynciau’r sesiwn a dewiswch pa rai sydd fwyaf berthnasol i chi
  • Paratowch gwestiynau: byddwch yn barod i ymgysylltu â siaradwyr. Cyflwyno cwestiynau ymlaen llaw o amser neu yn ystod sesiynau byw.
  • Rhannwch gyda’ch rhwydweithiau: anogwch eich cydweithwyr, ffrindiau a dilynwyr i ymuno
  • Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol, e-bost, neu grwpiau sgwrsio i ledaenu’r gair
  • Lawrlwythwch y faner a graffeg cyfryngau cymdeithasol – https://www.climateweek.gov.wales/CY/pages/Promotional_Toolkit2
  • Ychwanegwch linellau at eich llofnod e-bost e.e. Sut gallwn ni addasu i’n hinsawdd newidiol? Darganfyddwch yn #WythnosHinsoddolCymru2024 Ymunwch â mi drwy gofrestru yma.