Is-farsial yr Awyrlu Fin Monahan OBE DFC PhD yn ymgymryd â’i swydd yn Brif Swyddog Tân newydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn falch o groesawu’r Is-farsial yr Awyrlu Fin Monahan OBE DFC PhD yn Brif Swyddog Tân (PST) newydd i’r Gwasanaeth, wrth iddo ymgymryd â’i swydd heddiw.
Mae Fin yn ymuno â GTADC yn dilyn gyrfa nodedig ac addurnedig fel peilot awyrennau jetiau ymladd chwim ac uwch arweinydd yn yr Awyrlu Brenhinol (AB) a’r Weinyddiaeth Amddiffyn (YWA).
Mae cymwysterau eithriadol Fin yn cynnwys graddau Meistr o Brifysgol Nottingham a Phrifysgol Madras, yn ogystal â Doethuriaeth mewn Diwylliant Sefydliadol o Brifysgol Birmingham a ddyfarnwyd iddo yn 2018. Mae’n awdur cyhoeddedig ac yn arbenigwr cydnabyddedig ym maes diwylliant sefydliadol, gan ganolbwyntio ar sut i adeiladu dewrder, morál, parch a chydlyniad o fewn sefydliadau gwisg.
Roedd y broses ddethol ar gyfer y Prif Swyddog Tân yn rymus ac eang, gyda Fin yn dod i’r wyneb fel dewis clir i banelau o randdeiliaid – gan gynnwys staff o bob lefel a chyrff cynrychioliadol – a’r pedwar Comisiynydd ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a ardystiodd ei benodiad yn unfrydol.
Dywedodd y Comisiynwyr:
“Rydym yn hynod falch fod Fin Monahan wedi derbyn swydd y Prif Swyddog Tân, ac rydym yn wirioneddol gyffrous ynghylch ei benodiad.
“Mae Fin yn ymuno â’r Gwasanaeth yn dilyn gyrfa nodedig ac addurnedig. Roedd yn sefyll allan ym mhob un cam o’r broses recriwtio hynod heriol fel y person gorau i gymryd GTADC ymlaen, ac rydym yn hyderus y bydd yn gwneud hyn yn union.
“Wrth i ni ei groesawu i’r Gwasanaeth heddiw, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i wneud GTADC y lle gorau y gall fod er lles ei bobl a chymunedau De Cymru.”
Ynglŷn â’i benodiad, dywedodd Fin:
“Mae’n fraint gennyf dderbyn ymddiriedaeth parthed y rôl bwysig hon ac rwy’n ddiolchgar i’r staff, undebau, rhanddeiliaid a’r Comisiynwyr ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am eu hyder ynof.
“Hoffwn i bob aelod staff, beth bynnag yw eu rôl neu’u safle, i deimlo’n falch o’u gwaith ac i ymuno â mi a’r tîm arwain wrth i ni ail-adeiladu’r Gwasanaeth i fod yn sefydliad lle bydd pawb yn teimlo eu bod wedi’u croesawu, wedi’u cefnogi ac yn ddiogel. Bydd hyn yn ein helpu i adeiladu’r cydlyniad a’r cymorth ar y cyd sydd ei angen i gyflawni ein cenhadaeth o gadw 1.5 miliwn o ddinasyddion De Cymru’n ddiogel.”
Profiad ac Arweiniad ar gyfer Tirlun Newidiol
Gyda’i gefndir eang mewn arweinyddiaeth, diwylliant sefydliadol a phenderfynu strategol, daw Fin â phrofiad amhrisiadwy i GTADC. Mae ei arbenigedd wrth arwain timau cymhleth, menter uchel mewn amgylcheddau milwrol a sifilaidd yn hanfodol wrth i’r Gwasanaeth barhau i esblygu i gwrdd â gofynion cymuned amrywiol sy’n tyfu.
Ar rhan o’r Uwch Dîm Arwain, rhannodd Dominic Mika, Cyfarwyddwr Newid Strategol a Thrawsnewid, sydd wedi bod yn arwain Rhaglen Drawsnewid y Gwasanaeth a lansiwyd ynghynt eleni, ei argraffiadau ar y penodiad hwn:
“Rydym yn wirioneddol gyffrous i groesawu Fin yn Brif Swyddog Tân newydd i ni. Mae’r penodiad hwn yn foment bwysig i’r Gwasanaeth. Daw â sefydlogrwydd, arweinyddiaeth a chyfarwyddyd pellach i ni. Rwy’n fwy na hyderus, gydag arweinyddiaeth Fin, y byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwelliannau a wnaed gennym eleni fel rhan o’r Rhaglen drawsnewid cyfredol.
“Mae hwn yn gam ymlaen i ni wrth i ni barhau i flaenoriaethu rhagoriaeth sefydliadol a diwylliant cynhwysol sy’n rhoi’r cyhoedd yn gyntaf. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu’r cyhoedd a pharhau i leihau risg ar draws De Cymru.”
Fel rhan o’i ymrwymiad i ddeall heriau unigryw GTADC, bydd Fin yn cwblhau’r cwrs Rheolaeth Aur Gymreig (MAGIC), sy’n paratoi prif arweinwyr i ymgymryd â rolau prif ddigwyddiadau ac ymgysylltu ag asiantaethau eraill mewn argyfyngau graddfa fawr. Ar ben hyn, bydd yn ymgymryd â hyfforddiant diffodd tân i ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau gweithredol a wynebir gan staff rheng flaen.
Edrych Ymlaen
Bydd Fin yn gweithio’n agos â’r Comisiynwyr i gychwyn y broses o benodi Tîm Arwain Gweithredol parhaol i gefnogi gweledigaeth a chenhadaeth y Gwasanaeth. O dan ei arweinyddiaeth, bydd GTADC yn parhau i weithio tuag at faethu diwylliant o barch, cynhwysoldeb a rhagoriaeth, gan sicrhau fod pob aelod o’r tîm yn teimlo wedi’i werthfawrogi ac wedi’i harfogi i gyflawni cenhadaeth y Gwasanaeth i gadw De Cymru’n ddiogel wrth leihau risg.
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n bwriadu gwneud De Cymru’n ddiogelach wrth leihau risg. Byddwn yn gweithio i amddiffyn a gwasanaethu ar draws y 10 awdurdod lleol sy’n cynhwyso’n ardal amrywiol, yn gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr mewn gwasanaethau rheng flaen eraill.