Mae Diffoddwr Tân Georgina Gilbert o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Rebecca Openshaw-Rowe o GTA Canolbarth a Gorllewin Cymru, ei chyd Angel Tân yr Antarctig, yn rhoi cynnig ar her enfawr arall gan ddechrau yfory.
Yn dilyn eu taith fuddugoliaethus i Begwn y De, mae’r ddwy erbyn hyn yn paratoi i gyflawni saith marathon mewn saith diwrnod yn olynol yn gwisgo cit diffodd tân llawn a setiau offer anadlu – gyda Rebecca hefyd yn teithio ar draws saith cyfandir – yn yr hyn a elwir Ras Mawr y Byd.
Mae’r ddwy yn gyfarwydd â heriau, Rhwng fis Tachwedd 2023 tan Ionawr 2024, fe wnaeth George a Bex sgïo 1,239 cilomedr o Rewlif ‘Union’ i Begwn y De – heb gymorth a chefnogaeth, gan gwblhau maint sy’n gyfwerth â 29 marathon mewn 52 diwrnod.
Nawr, mae Angylion Tân yr Antarctig eisiau cadw momentwm eu neges yn fyw, gan rymuso menywod a merched i roi cynnig ar heriau nad oedden nhw’n meddwl ei bod yn bosib eu cyflawni.
Mae’r ddwy’n codi arian drwy law eu tudalen ‘Just Giving’, gyda tharged o £10,000.
Bydd marathon cyntaf Georgina yn cychwyn am 9.45yb Ddydd Gwener y 15fed o Dachwedd yn Felodrom Caerfyrddin, lle bydd yn cwblhau llwybr y gwylwyr 105 o weithiau.
Bydd personél Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru yn gwylio o’r llinell ochr i gefnogi Georgina, gyda rhai yn bwriadu ymuno â hi am ychydig o lapiau. Os hoffai unrhyw un fynd draw i gefnogi, mae’r amserlen ynghlwm yn dangos manylion y ras.
Dymunwn bob lwc i George a Bex!