Lansio eglurder ar sut sefydlodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddiwylliant cadarnhaol
Blwyddyn wedi adolygiad CB Fenella Morris i’r diwylliant yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), rhyddhaodd y Gwasanaeth ei ddatganiad diwylliant diwygiedig, sydd wedi’i alinio â’i uchelgeisiau a’i ddyheadau ar gyfer y dyfodol.
Gyda chymunedau De Cymru yn greiddiol iddo, mae’r datganiad diwylliant yn addewid y Gwasanaeth i ‘[greu] gwasanaeth tân ac achub diogel a chyfoes yn Ne Cymru a [sicrhau] y caiff pawb eu trin â pharch ac urddas, yn rhydd rhag gwahaniaethu, bwlio, aflonyddu ac ymddygiadau amhriodol. Rydym yn gwneud yr ymrwymiad hwn i’n staff, ein cymunedau a’r partneriaid a’r rhanddeiliaid yr ydym yn cydweithio â hwy bob dydd’.
Wedi’i rhagflaenu gan amlinelliad ar gyfer disgwyliadau newydd ynghylch ymddygiadau a ffyrdd o weithio, atgyfnerthir y datganiad gan lwon uwch arweinwyr y Gwasanaeth, gan gynnwys Comisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, yr Uwch Dîm Arwain a Phrif Swyddog Tân Fin Monahan a ymunodd â GTADC ym mis Tachwedd. Addawodd y Prif Swyddog ‘sicrhau tryloywder, tegwch a strategaeth glir i’n llywio ni yn ein blaenau’ yn ogystal â ‘dathlu llwyddiannau, adnabod cyraeddiadau a sicrhau bydd pob llais ar draws y sefydliad yn cael ei glywed’.
Mae’r Gwasanaeth wedi bod ar siwrne o newid ers cyhoeddwyd yr adolygiad i ddiwylliant yn Ionawr 2024, a amlinellodd 82 o argymhellion ar gyfer gwella. Fel rhan o’r atgyweiriad diwylliannol, crëwyd y swydd newydd o Gyfarwyddwr Newid a Thrawsnewid o fewn Tîm Arwain Gweithredol y Gwasanaeth. Addawodd Dominic Mika, sy’n arwain Cam Ymlaen : Rhaglen ar gyfer Newid a Thrawsnewid, bydd GTA De Cymru’n darparu gwasanaeth i’r cyhoedd a chymunedau sydd wedi’i sefydlu ar ‘ragoriaeth weithredol’.
Meddai Dominic: “Hefyd, bu’r Gwasanaeth yn gweithio ar adolygiad o’n gwerthoedd, ein cenhadaeth a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn ddiweddar, gyda rheolwyr ledled y Gwasanaeth yn ymgysylltu â 160 o dimau ar draws y gwasanaeth ar gyfer eu mewnbwn. Mae’r cydweithrediad hwn yn rhan o’r ffordd newydd o weithio i ni – gyda thryloywder a chyfathrebu yn greiddiol – yn sicrhau bydd pob un aelod o’r Gwasanaeth yn deall y rhan maen nhw’n chwarae, sut mae modd iddynt fod yn rhan, a hefyd yn rhan o’r siwrne i gyrraedd pendraw gwell gyda’n gilydd.”
Wrth gymryd Cod Moeseg y Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân yn sylfaen i’w werthoedd, mae’r Gwasanaeth wedi tyngu llw i annog ‘ ffyrdd o weithio sy’n cefnogi ac ysbrydoli, gan anwesu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’n huchelgais ar y cyd ar gyfer dyfodol Cymru.’
Mae’r datganiad diwylliant yn gam arall ymlaen ar y daith i ailosod sylfeini cryf ac arweinyddiaeth dda ar gyfer sut mae pobl o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n gweithio fel un tîm, gyda gofal a thosturi i bawb i ddiogelu dros 1.5 miliwn o bobl o fewn y cymunedau sydd ar draws y rhanbarth.