Ystyried y flwyddyn yn dilyn yr Adolygiad Diwylliant ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol gael ei gyhoeddi gan Fenella Morris CB, ac mae hon wedi bod yn flwyddyn o newid i’r gwasanaeth.
Ym mis Chwefror 2024, ymunodd pedwar Comisiynydd â’r gwasanaeth i oruchwylio llywodraethu uwch arweinwyr a gweithio gyda nhw i ddatblygu prosesau cadarn ar gyfer dull strategol newydd, prosesau gwneud penderfyniadau, gwelliannau ar gyfer lliniaru risg, a mwy o dryloywder.
Ym mis Ebrill, ymunodd Dominic Mika, Cyfarwyddwr newydd Newid Strategol a Thrawsnewid, â’r gwasanaeth, gan weithio â’r Comisiynwyr a’r Tîm Arwain Gweithredol i gyflawni’r Rhaglen Drawsnewid i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adolygiad o ddiwylliant.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd Fin Monahan yn Brif Swyddog Tân newydd yn Ne Cymru. Ymunodd ym mis Tachwedd ac mae ganddo ddull gwahanol ar gyfer arwain, ynghyd ag arbenigedd mewn diwylliant sefydliadol.
Ffocws y Comisiynwyr yw gwneud Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn wasanaeth tân ac achub iach, effeithlon ac effeithiol, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cymunedau er mwyn sicrhau bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal hyder ein holl gymunedau a’n staff cefnogi i fod ar eu gorau.
Maent yn parhau i ddarparu llywodraethu strategol, ac roedd rhai o’u penderfyniadau allweddol yn ystod y flwyddyn yn cynnwys comisiynu asesiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi i ategu gwaith tîm yr Adolygiad Diwylliant drwy ychwanegu cyd-destun a mewnwelediad pellach. Disgwylir yr adroddiad yn ystod y misoedd nesaf.
Drwy law’r strwythur llywodraethu, mae’r tîm yn craffu cynlluniau a chynnydd meysydd gwaith allweddol megis y Rhaglen Trawsnewid o’r enw ‘Cam Ymlaen’ yn cynnwys naw maes gwaith, yr adolygiadau thematig cenedlaethol ar gyfer meysydd gweithredu allweddol a newidiadau i ffyrdd o weithio, polisïau a gweithdrefnau i newid diwylliant y gwasanaeth i sicrhau bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch.
Mae goruchwyliaeth ddiweddar wedi canolbwyntio ar ddatblygu’r weledigaeth, y genhadaeth a’r gwerthoedd yn ogystal â’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gwasanaeth – gan amlinellu’r dull a ddefnyddir a’r meysydd ffocws strategol, ynghyd â diweddariadau ar gynnydd ar gyfer y prosiectau trawsnewid sy’n cryfhau’r sylfeini i waith yn y dyfodol.
Mae gan y Rhaglen Drawsnewid, sef ‘Cam Ymlaen’, naw prosiect, ac mae’n mynd y tu hwnt i’r argymhellion o’r adolygiad diwylliant, gyda’r nod cyffredinol o drawsnewid ffyrdd o weithio ac adeiladu sylfeini cryf ar gyfer dyfodol fydd yn well fyth.
Mae’r prosiectau’n mynd i’r afael â materion megis llywodraethu, i sicrhau ein bod yn gweithredu’n iawn, yn ogystal â ffocws ar newid digidol a data er mwyn i dechnoleg gefnogi ein gwaith yn well. Mae’r rhain yn darparu’r sylfaen i newid diwylliant cadarnhaol trwy brosiectau sy’n ymroddedig i wella cyfathrebu, datblygu arweinyddiaeth ar bob lefel, a sicrhau amgylchedd diogel a chadarnhaol i bawb, ymhlith themâu eraill:
Rhan allweddol o’r trawsnewid yw gwrando ar farn staff ledled y gwasanaeth, eu profiadau a’u hadborth ar yr hyn yr hoffent weld eu gwasanaeth. Gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau, gwerthoedd ac ymddygiadau, mae eu mewnbwn mewn gweithdai rheolwyr ac aelodau tîm, ffurflenni ar-lein, cyfarfodydd, fforymau a sesiynau adborth gyda gweithgareddau 10KV gyda Sefydliad Hydra, wedi bod yn hanfodol.
O ganlyniad i’r ymgysylltu hwn, ym mis Ionawr cyhoeddodd y Gwasanaeth ei Ddatganiad Diwylliant. Mae’n amlinellu’r disgwyliadau o ran ymddygiad, a ffyrdd o weithio, yn ogystal â rhoi Cod Moeseg Craidd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân ar waith, sef rhoi ein cymunedau yn gyntaf; uniondeb; urddas a pharch; arweinyddiaeth; cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Gan weithio gyda’i gilydd, mae’r Gwasanaeth yn datblygu gweledigaeth, cenhadaeth a set newydd o werthoedd a fydd yn sylfaen ar gyfer dyfodol gwell ac yn cael eu cyflawni gan gynllun strategol newydd sy’n cwmpasu’r holl ffrydiau gwaith.
Yn ystod y flwyddyn, parhaodd yr holl staff i wasanaethu cymunedau De Cymru ac amddiffyn bron i 1.5 miliwn o bobl drwy hyfforddiant, dysgu a recriwtio parhaus.
Bu rhai digwyddiadau nodedig lle ymatebodd criwiau’n gyflym ac yn broffesiynol, gan weithio’n galed i leihau difrod a diogelu bywydau, gan gynnwys y tân mawr yn yr ystafell arddangos ceir yn Nhredegar, y siop elusen yn y Fenni, a llifogydd eithafol ym Mhontypridd a’r cyffiniau. Atebodd timau bron i 37,000 o alwadau am gymorth, gan gynnwys dros 3,700 o danau bwriadol, 687 o danau mewn anheddau, ac 870 o wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.
Parhaodd eu gwaith ar atal a chyngor, gyda thimau diogelwch tân cymunedol a busnes yn cyflwyno bron i 37,000 o sgyrsiau diogelwch a thros 15,000 o wiriadau diogelwch yn y cartref. Yn ogystal â diwrnodau agored a digwyddiadau mawr a ddenodd dyrfaoedd enfawr o bobl dros yr haf, gan gynnwys diwrnodau agored gorsafoedd, diwrnodau 999 Parc Bryn Bach a Bae Caerdydd, Pride Cymru, Her y Cadetiaid Tân, digwyddiad cyntaf Merched yng Ngwasanaeth Tân Cymru, a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Wrth fyfyrio ar ei dri mis cyntaf yn y gwasanaeth, dywedodd y Prif Swyddog Tân Fin Monahan, “Mae fy amser yma hyd yn hyn wedi bod yn hynod o brysur, ond mae wedi rhoi boddhad mawr i fi. Rwy’ wedi cael y fraint o weithio gyda rhai o’r unigolion mwyaf ymroddedig a welais i erioed hyd fy ngyrfa. Dyma bobl sy’n barod i ymateb ar fyr rybudd i argyfyngau – gan gynnwys tanau, llifogydd, achub neu ddigwyddiadau critigol eraill.
Aeth ymlaen i ddweud, “Mae pob sefydliad yn wynebu heriau, ac mae gan ein sefydliad ni faterion hanesyddol, a nodwyd yn adroddiad Fenella Morris. Fy ffordd i yw gwrando yn gyntaf — dim ond drwy ddeall pryderon ein pobl y gallwn ni roi newid ystyrlon ar waith. Fy nod, yn enwedig o fewn y rhaglen drawsnewid hon, yw sicrhau bod pob aelod o’r sefydliad yn gallu perfformio ar ei orau, er mwyn i ni allu amddiffyn pobl De Cymru yn effeithiol.
“Ers i fi ymuno, rydw i wedi blaenoriaethu arweinyddiaeth weledol, gan dreulio diwrnodau hir yn ymgysylltu â staff ar draws gwahanol wylfeydd ac adrannau. Rwyf am i’m tîm wybod fy mod yn hygyrch a’u bod yn gallu siarad â fi yn uniongyrchol.
“Yn dilyn adroddiad Fenella Morris, cyflwynais system e-bost gyfrinachol, gan alluogi staff i adrodd am bryderon ynghylch bwlio, aflonyddu, neu unrhyw anghysur. Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy, gan fy ngalluogi i gysylltu ag unigolion, deall eu heriau, a chymryd camau ystyrlon. Er nad yw pob mater wedi’i ddatrys, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol, dim ond drwy feithrin cyfathrebu agored a sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Pan fydd staff yn gweld eu pennaeth yn gwrando ac yn gweithredu, mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Trawsnewid diwylliannol yw fy maes arbenigol. Mae doethuriaeth mewn diwylliant sefydliadol gyda fi ac rwy’ wedi arwain rhaglenni newid mawr yn fy rôl flaenorol. Yr agwedd fwyaf calonogol o’r sefydliad hwn i fi yw’r parodrwydd i newid. Roedd adroddiad Fenella Morris yn alwad i ddeffro, ac nid yw ein pobl am fod yn y cyfryngau am y rhesymau anghywir — maent yn cydnabod bod angen trawsnewid.
“Rydym eisoes wedi adeiladu cynllun strategol, y byddaf yn ei gyflwyno’n fuan i’r comisiynwyr. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl wrth ysgogi newid diwylliannol. Fodd bynnag, nid yw newid diwylliant yn digwydd dros nos – mae gofyn i bob aelod o’r sefydliad fyfyrio ar eu gwerthoedd a’u hymddygiad.”