Gorsaf Dân Aberbargod yn ennill cystadleuaeth ail-gylchu’r DU
Mae Gorsaf Dân Aberbargod, Bargoed wedi’i choroni’n bencampwr y DU ym Mhencampwriaethau Ailgylchu Bagio a Bancio Elusen y Diffoddwyr Tân eleni, gan arwain ymdrech ledled y DU i droi dillad diangen yn gymorth hanfodol i bersonél y gwasanaeth tân a’u teuluoedd.
Diolch i ymgyrch anhygoel ar draws y gymuned, rhoddwyd 5,610 cilogram (5.6 tunnell) o ddillad i’r banc ailgylchu y tu allan i Orsaf Dân Aberbargod ym mis Ionawr yn unig, gan ei wneud yn enillydd y DU a Chymru gyfan.
Cyfrannodd y cyflawniad lleol hwn at y cyfanswm o 523 tunnell o ddillad a gasglwyd trwy fanciau ailgylchu mewn gorsafoedd tân a safleoedd cymunedol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, y maint mwyaf a gasglwyd erioed yn y DU – 36 tunnell yn fwy na’r llynedd. I roi hynny mewn persbectif, mae’n bwysau cyfatebol o 43 injan dân.
Gyda chymorth partneriaid ailgylchu ymroddedig yr elusen, mae ymgyrch eleni wedi cynhyrchu £63,000 – arian sy’n helpu’r elusen i barhau i ddarparu cefnogaeth sy’n newid bywydau i ddiffoddwyr tân a’u hanwyliaid.
Dywedodd Kevin Biles, Rheolwr Gwerthiant Elusen y Diffoddwyr Tân: “Unwaith eto, ces i fy syfrdanu gan y gefnogaeth anhygoel i’n hymgyrch Bagio a Bancio. Eleni, mae ymroddiad ein cymunedau ein gwasanaeth tân a’r cyhoedd wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig, a bydd yr arian a godir yn cael effaith wirioneddol.
“Rwyf am longyfarch Gorsaf Dân Aberbargod a’r gymuned leol y mae eu hymdrechion eleni wedi bod yn anhygoel – mae’r canlyniadau’n dweud y cwbl!
“Mae pob punt sy’n cael ei chodi’n sicrhau pan fydd aelod o’n teulu tân angen cymorth – er lles corfforol neu feddyliol – ein bod ni yno iddyn nhw.”
I ddarganfod mwy am ailgylchu eich dillad er budd Elusen y Diffoddwyr Tân, ewch i www.firefighterscharity.org.uk/recycling.
Gallwch ddod o hyd i’r 20 gorsaf orau ym Mhencampwriaeth Ailgylchu Bagio a Bancio eleni yma.
Gan fod Elusen y Diffoddwyr Tân yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar roddion i ariannu ei gwaith hanfodol, ni fyddai dim o’r gefnogaeth y mae’n ei chynnig i unigolion yng nghymuned y gwasanaethau tân yn bosibl heb haelioni ei chefnogwyr. Gallwch ymuno â’u rhengoedd trwy gyfrannu heddiw yma www.firefighterscharity.org.uk/donate