Llofnodi Siarter i Gefnogi Teuluoedd mewn Profedigaeth

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi llofnodi’r Siarter ar gyfer Teuluoedd mewn Profedigaeth achos Trychineb Cyhoeddus, sy’n eu hymrwymo i ymateb i drychinebau cyhoeddus yn agored, yn dryloyw ac yn atebol.

Roedd y siarter, a ysgrifennwyd gan yr Esgob James Jones KBE, yn rhan o’i adroddiad ar wersi a ddysgwyd yn Dilyn trasiedi Hillsborough. Mae sefydliadau ledled Cymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub wedi llofnodi’r siarter, fel ymrwymiad amlwg i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth a’r gymuned yn dilyn digwyddiad mawr.

Dywedodd Christian Hadfield, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a fynychodd arwyddo cyhoeddus y Siarter ar gyfer Teuluoedd mewn Profedigaeth mewn digwyddiad a drefnwyd ym Merthyr Tudful, “Ni ellir gorbwysleisio’r effaith ddinistriol ar deuluoedd mewn profedigaeth yn dilyn digwyddiad mawr neu drasiedi gyhoeddus. Ar adeg y fath golled, mae’n hanfodol bod pob corff cyhoeddus yn gweithredu gyda thryloywder, gonestrwydd, ac er budd y cyhoedd. Nid addewid yn unig yw’r ymrwymiad hwn – Mae e’n gyfrifoldeb sylfaenol.  Rydym yn cydnabod bod ymddiriededd yn codi o dryloywder a dim ond pan fydd y rhai yr effeithir arnynt yn cael eu cefnogi’n llwyr y gall y sawl yr effeithir arnynt wella’n llwyr, gan sicrhau nad yw teuluoedd byth yn cael eu gadael heb gael y gwirionedd neu’r gofal sydd ei angen arnynt yn sgil trychineb cyhoeddus.”

Mae’r siarter yn amlinellu ymrwymiad clir i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth, gan eu trin â gofal a thosturi, nid yn unig ar adeg argyfwng, ond yn yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd wedyn hefyd.

Y Siarter

  1. Mewn achos o drasiedi gyhoeddus, dylid cefnogi gweithredu cynlluniau brys a defnyddio adnoddau i achub dioddefwyr, i gefnogi’r rhai mewn profedigaeth ac i amddiffyn y bregus.
  2. Dylid ystyried les y cyhoedd uwchlaw ein henw da ni.
  3. Dylid trin mathau o graffu cyhoeddus – gan gynnwys ymchwiliadau cyhoeddus a chwestau – gyda gonestrwydd, mewn ffordd agored, onest a thryloyw, gan ddatgelu dogfennau, deunydd a ffeithiau perthnasol yn llawn. Ein hamcan yw cynorthwyo chwilio am y gwirionedd. Rydym yn derbyn y dylem ddysgu o ganfyddiadau craffu allanol ac o gamgymeriadau’r gorffennol ill ddau.
  4. Dylid osgoi ceisio amddiffyn y rhai na all eu hamddiffyn ac ni ddylid ychwaith ddiystyru neu sarhau’r sawl a all fod wedi dioddef lle rydym wedi methu.
  5. Dylid sicrhau bod pob aelod o staff yn trin aelodau o’r cyhoedd a’i gilydd gyda pharch a chwrteisi. Pan fyddwn yn methu, dylem ymddiheuro’n syml ac yn ddiffuant.
  6. Dylem gydnabod ein bod yn atebol ac yn agored i her. Byddwn yn sicrhau bod prosesau ar waith i alluogi’r cyhoedd i’n dwyn i gyfrif am y gwaith a wnawn ac am y ffordd yr ydym yn ei wneud. Nid ydym o fwriad yn camarwain y cyhoedd na’r cyfryngau.

Ceir mwy o wybodaeth am y siarter yma.