Gofalu am Ymddygiadau
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl staff a gweithwyr yn teimlo’n ddiogel, yn gyfforddus, yn cael eu cefnogi ac yn hapus yn y gwaith.
Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym yn lansio ymgyrch newydd ar draws y gwasanaeth – mae “Gofalu am Ymddygiadau” yn gam hollbwysig tuag at feithrin gweithle mwy diogel, mwy parchus, tra hefyd yn arfogi unigolion â’r offer a’r sgiliau i ffynnu yn yr amgylchedd hwn. Trwy flaenoriaethu’r gwerthoedd hyn, gallwn greu diwylliant o barch, atebolrwydd a chynhwysiant.
Mae’r ymgyrch wedi’i gynnwys mewn hyfforddiant i staff cyfredol a staff/recriwtiaid Newydd ill ddau, trwy gyfres o weithdai, fideos hyfforddi, cyflwyniadau a phecynnau gwybodaeth.
Mae ymgyrch yn bwriadu:
Gyda’n gilydd, rydym yn creu amgylchedd gwaith sy’n fwy diogel ac yn fwy cefnogol, lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i rymuso ar draws y Gwasanaeth.