Diffoddwr Tân y System Ddyletswydd Llawn Amser
Ydych chi o ddifrif ynghylch diogelwch tân ac yn gallu arddangos y sgiliau sy’n berthnasol i fod yn Diffoddwr Tân o’r oes fodern? Darllenwch fwy…
Mae Gwasanaethau Tân ac Achub wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae rôl Diffoddwr Tân wedi addasu i adlewyrchu hyn, a chwrdd â gofynion y gymuned leol.
Mae Diffoddwr Tân y dyddiau hyn yn dal i gyflawni’r dyletswyddau traddoddiadol wrth ymateb i danau a Galwadau Gwasanaeth Arbennig e.e. gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, llifogydd ac argyfyngau naturiol eraill. Fodd bynnag, mae Diffoddwr Tân y dyddiau hyn hefyd yn gallu newid o gyflawni’r rôl ymatebol hon i rôl fwy atalion yn ymwneud ag addysgu’n cymunedau.
Mae’n ofynnol i Ddiffoddwr Tân allu cyfathrebu â phob grwp o fewn y gymuned yn enwedig a rhai sy’n ‘agored i niwed’ fel yr henoed a phlant. Yn ogystal â chyfathrebu ar lafar, cynnal arddangosfeydd a chyflwyniadau, mae ein Diffoddwr Tân yn ymweld â’r bobl rydym yn gwasanaethu gartref, gan gynnal ymweliad Diogelwch a Lles yn aml, i sicrhau eu bod yn deall sut i gadw eu hunain yn ddiogel rhag tân a beth i’w wneud mewn argyfwng.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a hysbysebir pob ymgyrch System Ddyletswydd Gyflawn ar y dudalen hon.
Ymweld i’n Tudalen Swyddi Wag Diweddaraf.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â’r tîm recriwtio ar 01443 232200.
Rydym yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad mewn nifer o ein gorsafoedd ar draws De Cymru. Darganfyddwch fwy am y rôl a gweld os ydych eich gorsaf leol yn recriwtio trwy ymweld â’n Tudalen Diffoddwyr Tân Ar Alwad.