Mae iechyd a diogelwch yn rhan annatod o ddarparu gwasanaeth o ansawdd i’r cyhoedd. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cydnabod ei gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati, ac mae’n ymroddedig, cyn belled ag sy’n ymarferol rhesymol, i sicrhau iechyd, diogelwch a lles, wrth gydnabod amrywiaeth o anghenion iechyd a diogelwch ei weithwyr ac eraill, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd, contractwyr, ymwelwyr ac ati, a all gael eu heffeithio gan weithgareddau’r Gwasanaeth.
Gan gadarnhau’r ymrwymiad hwn, mae nodau Polisi Iechyd a Diogelwch y Gwasanaeth yn cynnwys:
- Penodi Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch i ddarparu arweinyddiaeth gref o’r brig i reoli iechyd a diogelwch, a chynorthwyo hyn wrth ddarparu’r adnoddau, y trefniadau a’r strwythur sefydliadol angenrheidiol.
- Sicrhau bod trefniadau addas ar waith i reoli cydymffurfio â phob prif ddeddfwriaeth a chodau ymarfer.
- Darparu ymgynghoriaeth effeithiol ar y cyd gyda gweithwyr a’u cynrychiolwyr, ac annog cyfranogiad cadarnhaol agored mewn materion iechyd a diogelwch.
- Sicrhau bod risgiau’n cael eu hamlygu, eu hasesu a’u lliniaru gan fesurau rheoli addas a bod systemau gwaith diogel ar waith i leihau’r risg o anafiadau a salwch, cyn belled ag sy’n ymarferol rhesymol.
- Darparu gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth mewn materion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, a chyfrifoldebau unigol, a sicrhau bod yr holl gyfrifoldebau’n cael eu diffinio, eu cyfleu a’u deall yn glir.
- Darparu trefniadau diogel ar gyfer defnyddio, trafod, storio a chludo eitemau a sylweddau, a sicrhau bod peiriannau, offer a systemau yn ddiogel, heb risg i iechyd.
- Monitro, adolygu ac archwilio ein gweithdrefnau, dysgu o’r deilliannau a chymryd camau prydlon i gywiro diffygion.