Mae Galwadau Ffug yn Costio Bywydau
Am 14:41 ar Ddydd Mercher y 9fed o Fai, cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru adroddiadau bod rhywun wedi neidio i’r afon Wysg yn ymyl Friars Walk, Casnewydd.
Cyrchwyd cychod a chriwiau arbenigol o Maendy, Malpas a Dyffryn gan gyrraedd y safle o fewn chwe munud, ond doedd dim golwg o neb anafedig yn y dŵr.
Am 15.21 cafodd y staff Rheoli’r neges i beidio â pharhau gan glywed bod y criwiau erbyn hyn wedi cael eu hatal a bod y digwyddiad hwn yn alwad ffug.
Mae’r Gwasanaeth eisiau atgoffa’r cyhoedd bod galwadau ffug a maleisus yn drosedd sy’n peryglu bywydau’r rhai a allai fod mewn sefyllfaoedd sy’n berygl i fywyd mewn gwirionedd.