Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod

Alison Kibblewhite
Rheolwr Ardal , Penaeth Gweithrediadau

Wrth i ni baratoi i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, soniwch wrthym am ffigwr benywaidd mewn hanes a’ch dylanwadodd? 

Dwi wedi bod yn rhedeg ers sawl blwyddyn, ac yn ferch ifanc roeddwn i’n edmygu Jackie Joyner-Kersee, athletwr Americanaidd fuodd yn llwyddiannus mewn nifer o Gemau Olympaidd. Erbyn hyn, sefydlodd Jackie ei sefydliad ei hun lle mae hi’n helpu pobl ifanc amddifadus yn yr Unol Daleithiau i ddod yn athletwyr a’u helpu yn eu bywydau

Beth mae DRhM yn golygu i chi?

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod lle gallwn ddathlu llwyddiannau merched a sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth ac yn annog menywod eraill i wynebu’u heriau eu hunain.

Beth ydych chi’n #DewisHerio?

Dim ond swm isel o fenywod sydd gennym yn y GTA o hyd, felly mae angen bod yn weladwy wrth godi proffil merched i ddangos fod hon yn rôl a gyrfa gall menywod anelu ati a bod modd cyflawni hynny. Hefyd, mae e ynghylch herio ystrydebau. Yn aml, cyfeirir atom fel ‘dynion tân’ yn hytrach na ‘diffoddwyr tân’ ac mae hyn yn rhywbeth sydd angen newid.

Beth yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol rydych chi wedi’i ganfod i fynd i’r afael ag ystrydebu negyddol?

Mae e ynghylch codi ymwybyddiaeth a chynnig gwell ymwybyddiaeth – a chynnal sgwrs agored a gonest. Mae neilltuo’r amser hwnnw i egluro i bobl yn bwysig iawn. Lle byddwn yn ymgysylltu â phlant tra byddant yn ifanc, gallwn ddangos iddynt y cânt ddilyn eu breuddwydion a chyflawni’u huchelgais i ymuno â’r rolau a welir, yn draddodiadol, fel rhai mwy gwrywaidd.

Rydych chi’n paratoi i gychwyn her anferth. Beth y’ch chi’n gobeithio bydd eraill yn dysgu o’ch siwrne?

Fel aelod hyna’r tîm, rwy’n gobeithio mai fi fydd yr un llonydd neu lais y call pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Rwy’ am ddangos mai rhif yn unig yw oed, a dwi’n credu os allwch gadw’n ffit a bywiog, mae llawer o’r hyn a wnawn ynghylch gallu a nerth ymenyddol yn fwy na chorfforol. Rwy’ eisiau gallu dangos y gallwch ymgymryd ag unrhyw her – does dim ots beth yw eich oed – a does dim ots beth yw eich rhywedd chwaith.

 

Alysha Chappell
Prentis TGCh Pencadlys, Llantrisant

Ers faint ydych chi’n gweithio gyda’r Adran TGCh?
Rwyf wedi gweithio gyda’r Adran TGCh ers yr 16eg Tachwedd 2020.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am y swydd?
Rwy’n mwynhau cyfeillgarwch y tîm a chael her wahanol bob dydd.

Beth fyddech chi’n ei newid am y tybiaethau a wnaed gan ddynion am fenywod?
Fyddwn i ddim yn newid dim achos bod pob dyn rwyf wedi dod ar ei draws o fewn y Gwasanaeth yn barchus ac wedi gwerthfawrogi fy help bob amser.

 

Sut ydych chi’n llwyddo mewn amgylchedd lle mae dynion yn y mwyafrif?
Drwy fod yn fenyw, ac yn bwysicaf oll drwy fod yn fi fy hun.

Pa gynnydd ydych chi wedi’i weld o ran cydraddoldeb rhywiol yn eich bywyd a’ch gwaith?
O’r cychwyn cyntaf yn fy swydd rwyf wedi gweld cydraddoldeb yn y gweithle ac mae hynny’r un fath yn fy mywyd bob dydd. Dw i byth yn teimlo fy mod i’n cael fy nhrin yn wahanol o ganlyniad i fy rhyw

 

Georgina Gilbert 
Ymladdwraig Tan, Penarth 

Wrth i ni baratoi i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, soniwch wrthym am ffigwr benywaidd mewn hanes a’ch dylanwadodd? 
Virginia Woolf – am alluogi menywod ac annog pobl i brofi bywyd yn hytrach na breuddwydio amdano. Mae angen i chi fyw eich bywyd fel petaech chi’n mynd i ysgrifennu llyfr amdano.

Beth mae DRhM yn golygu i chi?
Mae’n golygu adlewyrchu ar y brwydrau a brofwyd gan ferched yn hanesyddol – sut allwn ddysgu ohonynt a sut i symud ymlaen i greu tegwch o ran rhywedd.

Beth ydych chi’n #DewisHerio?
Iaith sy’n seiliedig ar rywedd. Yn aml, mae pobl yn dal i fy ngalw’n ‘ddyn tân benywaidd’ – gadwech i ni ei droi ar ei ben a dweud ‘menyw tân gwrywaidd’ – mae’n swnio’n ddwl, nag yw e?

Beth yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol rydych chi wedi’i ganfod i fynd i’r afael ag ystrydebu negyddol?
Cyfathrebu – dyw e ddim yn air brwnt.  Ers oes, mae CDE wedi’i ‘orfodi’ Mae’r ieithwedd honno’n anghywir ar gyfer heddiw. Roedd e’n gweithio 30 mlynedd yn ôl, ond mae’n bryd newid y dacteg orfodol honno oherwydd dyna’i gyd fydd hynny’n creu yw agwedd o wrthod ac ymatebion ‘beth amdanom ni’.  Dealltwriaeth a gwybodaeth yw’r allwedd i gymdeithas gynhwysol a theg.  Pawb yn wahanol ond pawb yn gydradd. Un hil – yr hil ddynol.  Mae e mor syml â hynny!

Rydych chi’n paratoi i gychwyn her anferth. Beth y’ch chi’n gobeithio bydd eraill yn dysgu o’ch siwrne?
Eu bod nhw’n ddi-derfyn.  Ry’ch chi byth yn rhy hen neu’n rhy ifanc i herio eich hun yn wirioneddol. Does dim ots beth fyddwch chi’n dewis gwneud – os allwch ddychmygu e, mae modd i chi weithio tuag ato a chyflawni rhywbeth sy’n anhygoel….

 

 

 

 

Marcia Hall
Prentis Fflyd a Pheirianneg , Pencadlys , Llantrisant

Ers faint ydych chi wedi bod yn Brentis gyda’r Adran Fflyd a Pheirianneg?
Tua blwyddyn a hanner, dechreuais ym mis Hydref 2019.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am y swydd?
Rwy’n hoffi cael tasgau gosod a ffyrdd eglur i’w cwblhau; mae hyn yn wahanol iawn i fy swydd ddiwethaf mewn hostel i bobl ddigartref lle’r oedd angen ymatebion unigryw ar gynifer o ddigwyddiadau oedd yn dibynnu ar sefyllfaoedd amrywiol. Rwy’n mwynhau’r hyder rwy’n ei gael o wybod mod i’n gallu holl rannau fy swydd yn dda.

Beth fyddech chi’n ei newid am y tybiaethau a wnaed gan ddynion menywod?
Dw i ddim yn hoffi stereoteipiau’n gyffredinol, felly byddwn i’n annog pawb i farnu pobl fel unigolion, nid yn ôl eu rhyw. Mae gan bob menyw wahanol ddiddordebau, gobeithion ac uchelgeisiau, yn union yr un fath â phob dyn. Nid yw’r ffaith bod y rhain yn cynnwys teulu, gyrfa, chwaraeon, teithio neu fod yn hapus ynoch chi eich hunan, yn dibynnu ar ryw, felly ni ddylai neb cael ei gyfyngu yn y fath modd.
Ar yr un pryd, rwy’n credu bod angen i ddynion gydnabod bod llawer i’w wneud eto – mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU yn dal i fod yn broblem, ac yn fwy fyth felly i fenywod o gefndiroedd BAME, ac mae euogfarnau ar gyfer achosion o ymosodiadau rhywiol (sy’n cynnwys dioddefwyr benywaidd yn bennaf) ar eu hisaf erioed. Pe gallai mwy o ddynion alw eu hunain yn ffeministiaid a bod yn gynghreiriaid gweithredol, byddai’r byd ar ei ffordd i ddod yn lle tecach.

Sut ydych chi’n llwyddo mewn amgylchedd sy’n cael ei reoli gan ddynion?
Rwy’n ceisio aros yn driw i’r hyn yr ydwyf i a’r hyn y gallaf ei wneud, gan beidio â phoeni gormod am yr hyn y mae eraill yn ei feddwl – wrth geisio tynnu sylw at unrhyw achosion o wahaniaethu neu rywiaeth a allai godi.

Pa gynnydd ydych chi wedi’i weld o ran cydraddoldeb rhywiol yn eich bywyd a’ch gwaith?
Wrth gwrs, gwnaeth mudiadau megis #FiHefyd waith gwych o ran rhoi sylw i aflonyddu rhywiol a gwahaniaethu, a welir yn aml yn y gweithle. Rwy’n credu bod hyn wedi rhoi mwy o hyder i fenywod siarad a ddangosodd fod y broblem yn fwy cyffredin o lawer, gan olygu y byddai mwy ohonynt yn cael eu credu, gobeithio.
Mae cael modelau rôl cryf iawn gan fenywod mewn gwleidyddiaeth, y byd chwaraeon, busnes a diwylliant pop wedi bod yn sbardun gwych i fenywod eraill fynd i’r meysydd hynny, felly gobeithio y bydd hynny’n parhau. Gall cael cynrychiolaeth gynyddol a mwy o fenywod yn ymwneud â gwneud penderfyniadau ill dau fod o fudd i gymdeithas gyflawn.