Cwrs Diogelwch Tân am Ddim i Landlordiaid
Mae Rhentu Doeth Cymru, yr awdurdod cofrestru a thrwyddedu ar gyfer pob landlord ac asiant sydd ag eiddo yng Nghymru, wedi datblygu cwrs diogelwch tân newydd ar gyfer landlordiaid.
Cafodd ei ddatblygu ar y cyd â thri awdurdod tân Cymru – Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Nod y cwrs ar-lein yw ehangu gwybodaeth landlordiaid am ddiogelwch tân a’u gwneud yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau bod eu tenantiaid a’u heiddo yn ddiogel rhag yr effeithiau trychinebus y gall tân eu hachosi.
Mae’r cwrs ar gael o wefan Rhentu Doeth Cymru a dyma’r cwrs Datblygu Proffesiynol Parhaus cyntaf i gael ei gynnig drwy’r cynllun. Mae’n cyflwyno gwybodaeth fwy manwl am ddiogelwch tân nag sy’n rhan o’r cyfrifoldebau sylfaenol yn y cwrs hyfforddiant gorfodol ar gyfer pob landlord sy’n rheoli ei hun yng Nghymru.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl dros Rentu Doeth Cymru, y Cyng. Lynda Thorne: “Rwy’n hapus iawn i weld bod Rhentu Doeth Cymru yn cynnig gwerth ychwanegol ar gyfer landlordiaid drwy’r cwrs ar-lein newydd hwn sy’n rhad ac am ddim.
“Rydym oll yn gwybod y gall tân fod yn drychinebus. Ond mae modd atal y rhan fwyaf o danau felly mae’n hollbwysig bod landlordiaid, asiantau a thenantiaid yn fwy ymwybodol o’u cyfrifoldebau tân.”
Mae angen tuag awr i gwblhau’r cwrs ac mae’n trafod naw pwnc gan gynnwys dyletswyddau landlord cyffredinol, diogelwch tân, diogelwch nwy, diogelwch trydan a diogelwch gyda chelfi a gosodiadau. Mae’r cwrs hefyd yn cynnig gwybodaeth am ddiogelwch tân mewn Tai amlfeddiannaeth, offer diogelwch tân ac asesiadau risg.
Rhaid i landlordiaid gwblhau asesiad byr ar ddiwedd y cwrs i basio ac mae’r canlyniad yn mynd ar eu cofnod hyfforddiant gyda Rhentu Doeth Cymru.
Dywedodd Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae hi mor bwysig bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelwch tân – mae gennym oll rôl i’w chwarae i gadw’n cymunedau’n ddiogel.
“Drwy gynorthwyo i ddatblygu’r cwrs am ddim a hygyrch hwn, gobeithiwn y bydd landlordiaid yn treulio amser yn dysgu mwy am sut mae gwneud cartrefi mor ddiogel â phosibl, a fydd yn ei dro’n helpu i ddiogelu trigolion ein rhanbarth.”
Dywedodd y Rheolwr Gorsaf, David Morgans, Rheolwr Diogelwch Tân Busnes Rhanbarthol, Sir Gaerfyrddin: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canol a Gorllewin Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De a Gogledd Cymru a Rhentu Doeth Cymru i ddatblygu Cwrs Diogelwch Tân sy’n galluogi landlordiaid i ddeall diogelwch tân a’u cyfrifoldebau cyfreithiol yn well.
“Fel Gwasanaeth Tân ac Achub, byddem yn cynghori landlordiaid i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru i wneud y cwrs rhad ac am ddim hwn. Bydd y cwrs heb os yn gwella gwybodaeth landlordiaid am egwyddorion diogelwch tân a sut mae rheoli diogelwch tân mewn eiddo rhent ac yn y pen draw bydd yn lleihau’r risg i’n cymunedau.”
Dywedodd Adrian Moyse, Rheolwr Tîm Archwilio, Adran Lleihau Risg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rydym yn falch iawn bod y tri Gwasanaeth Tân ochr yn ochr â Rhentu Doeth Cymru wedi llunio’r pecyn Parhau Datblygiad Proffesiynol electronig newydd hwn i godi ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Tân ar gyfer landlordiaid sector preifat. Mae’r pecyn DPP yn rhoi canllawiau Diogelwch Tân ymarferol ac yn ymhelaethu ar ddyletswyddau statudol landlordiaid mewn perthynas â gwneud eu safleoedd yn ddiogel rhag tân. Yn ogystal â sicrhau bod eu heiddo’n fwy diogel, bydd yn sicrhau bod tenantiaid yn fwy diogel rhag effeithiau tân. Bydd hynny yn ei dro’n lleihau risg i’n cymunedau ledled Cymru.“
Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: “Diben Rhentu Doeth Cymru yw gwella safonau yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, helpu landlordiaid i fod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau a sicrhau bod tenantiaid hefyd yn gwybod eu hawliau a’u cyfrifoldebau eu hunain. Mae’r cwrs yn darparu’r cymorth y bu landlordiaid ac asiantau’n gofyn amdano, adnodd mynediad hawdd ar gyfer darparu gwybodaeth syml a chyfredol.
“Mae Rhentu Doeth Cymru yn gobeithio datblygu cyrsiau ychwanegol yn y dyfodol i barhau i ddiwallu anghenion y sector.”