Cadetiaid tân
Mae’r Cadetiaid tân yn rhoi cipolwg unigryw i bobl ifanc ar weithio mewn gwasanaeth brys.
Rydym yn cynnig cyfleoedd cynhwysol hwyliog a heriol i bobl ifanc ac rydym gan geisio datblygu sgiliau personol a chymdeithasol trwy weithgareddau sy’n hyrwyddo hunanddisgyblaeth, gwaith tîm a dinasyddiaeth. Mae cyfle hefyd i ennill gwobrau a gweithio tuag at ennill cymhwyster BTEC cydnabyddedig, a hynny oll wrth gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd.
Fel Cadét Tân, byddwch chi’n cael eich trin fel diffoddwyr tân ifanc dan hyfforddiant, gan ddysgu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar ddiffoddwr tân wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch yn eich Gorsaf Dân leol a’r cyffiniau. Byddwch yn cael eich gwisg eich hun a phecyn tân y bydd angen i chi ofalu amdanynt yn dda, a bydd disgwyl i chi fynychu noson Drill wythnosol yn eich Uned Cadetiaid tân. Bydd disgwyl i chi ddangos rhywfaint o ddisgyblaeth ac ymrwymiad, yn union fel ein diffoddwyr tân.
Yn ogystal â gweithgareddau wythnosol yn eich Uned leol, cewch gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gwersylloedd, cystadlaethau a theithiau cymdeithasol yn yr awyr agored. Mae llawer o’n grwpiau Cadetiaid hefyd yn chwarae rhan weithredol yn eu cymuned yn cefnogi mentrau ac elusennau lleol.
Mae ein Rhaglen Cadetiaid Tân yn papa am 2 flynedd ac yn cael ei chynnal yn ystod y tymor
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ond rhagwelir y byddwn yn dechrau recriwtio ym mis Mai 2025 i baratoi ar gyfer y garfan a fydd yn dechrau ym mis Medi 2025.
Cadwch olwg ar y dudalen hon ar ein gwefan lle byddwn yn cyhoeddi ein dyddiadau recriwtio wedi’u cadarnhau.
Dilynwch ni ar Twitter: @SWFRSYSS
Dilynwch ni ar Instagram: @swfrs_fire_cadets
Ar gyfer holl ymholiadau Cadetiaid Tân, e-bostiwch: ymladdwyrtanifanc@decymru-tan.gov.uk