Landlord o Donyrefail wedi cael ei orchymyn i dalu dros £5,000 gan Ynadon Merthyr Tudful

Gorchmynnwyd i Mr Matthew Farr o Westy’r Boars Head dalu £5426.04 am fethu ymateb i geisiadau am wybodaeth a wnaed gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (ATADC) ynghylch achosion o dorri rheolau diogelwch tân o fewn yr eiddo.

Ym mis Chwefror 2018, cynhaliwyd arolygiad gan Swyddogion Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yng Ngwesty’r Boars Head, Y Stryd Fawr, Tonyrefail lle mae Mr. Farr yn landlord ar hyn o bryd. Nododd yr arolygiad fod y darpariaethau diogelwch tân ar y safle yn annigonnol ac arweiniodd hyn at gyhoeddi Hysbysiad Gwahardd o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn atal y safle rhag cael ei ddefnyddio fel man cyfarfod cyhoeddus. Cyflwynwyd Hysbysiad Gorfodaeth hefyd yn nodi’r gwaith adferol a fyddai’n angenrheidiol i wneud y safle’n ddiogel.

Cynhaliwyd ymchwiliad gan swyddogion tîm cydymffurfio GTADC lle nodwyd mai Mr Matthew Farr oedd trwyddedai’r safle. Drwy gydol yr ymchwiliad, gwnaed ceisiadau am wybodaeth yn ymwneud â’r darpariaethau diogelwch tân ar y safle. Anwybyddwyd y ceisiadau hyn yn barhaus ac nid oedd gan GTADC unrhyw ddewis ond mynd â’r mater i’r llys.

Cafodd Mr Farr ei alw wedyn i Lys Ynadon Merthyr Tudful ar y 7fed o Dachwedd 2018. Mr. Justin Davies, o Hugh James, Caerdydd, oedd yn gweithredu ar ran Awdurdod Tân ac Achub De Cymru a amlinellodd yr achos yn erbyn y diffynnydd. Methodd Mr Farr â mynychu’r llys ar y dyddiad hwn ac fe’i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb, o dri throsedd o dan Erthygl 27 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Cafodd Mr Farr ddirwy o £750 mewn perthynas â phob trosedd a gorchmynnwyd iddo dalu costau llawn o £3176.04 i’r Awdurdod Tân.Pe byddai Mr Farr wedi ymateb i’r cais am wybodaeth angenrheidiol gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gallai fod wedi osgoi’r ddirwy hon. Mae’r ymchwiliad i’r troseddau yn ymwneud â diogelwch tân yn parhau.

Dywedodd Owen Jayne, Rheolwr Grŵp, Pennaeth Adran Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Ein rôl ni yw gorfodi deddfwriaeth diogelwch tân ar safleoedd sy’n dod o fewn cwmpas Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 a sicrhau bod y safleoedd hyn yn ddiogel. Rydym yn cyflawni hyn drwy weithio gyda busnesau a landlordiaid ledled De Cymru i’w cynorthwyo i ddiogelu eu busnes rhag risg. Yn yr achos hwn, gwnaeth GTADC bob ymdrech i gael gwybodaeth sylfaenol gan y person cyfrifol i’n galluogi i ddilyn protocolau cyfreithiol ond roedd hyn yn ofer.

“Gan fod y llys o’r farn bod y mater hwn mor ddifrifol, cawsant y diffynnydd yn euog a gosod y ddirwy. Fel y gwelwch yn yr achos hwn, yr unig reswm dros y dirwyon a’r costau yw methu darparu gwybodaeth. Mae hon yn neges glir i landlordiaid ac aelodau o’r gymuned fusnes bod angen iddynt ymateb i geisiadau ffurfiol gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.”

I gael rhagor o wybodaeth am Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, ei effaith ar eich busnes a sut y gall Adran Diogelwch Tân Busnes GTADC weithio gyda’ch busnes chi, ewch i www.tan-decymru.gov.uk