Her Offer Anadlu Cenedlaethol
Mae’r pum ymladdwr tân, sy’n hannu o Orsafoedd ar draws ardal De Cymru, wedi ymroi i amserlen hyfforddi ddwys iawn mewn paratoad ar gyfer yr Her flynyddol ym Moreton in the Marsh, Coleg y Gwasanaeth Tân, y penwythnos hwn ac fe’u gwobrwywyd ag 8fed safle rhagorol (am OA) allan o’r 24 tîm a oedd yn cystadlu a Gwobr Efydd i’r tîm cyfansymiol
Gyda’r Her yn canolbwyntio ar achub amryfal gleifion o adeiladau sydd ar dân wrth ddefnyddio cit Offer Anadlu arbenigol, goresgynodd y tîm senario gymhleth gydag amryfal darddleoedd tân a mwg yn rhan o sefyllfa diffodd a chwilio ac achub.
Dywedodd Rheolwr Criw Clare Amor:
“Rwyf wir wedi fy mhlesio â’r hyn a gyflawnodd y tîm. Dyma’r gystadleuaeth gyntaf y buom yn cystadlu ynddi fel tîm o ferched yn unig, a daethom oll at ein gilydd yn llwyddiannus i gwblhau’r heriau gan gynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hyd safon uchel iawn”
Dywedodd Rheolwr Ardal Alison Kibblewhite, Pennaeth Gweithrediadau:
“Rwy’n hynod falch o’r tîm fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth Offer Anadlu a’r amser a’r ymroddiad a roddwyd ganddynt i hyfforddi ar gyfer y digwyddiad. Mae’r tîm oll yn gweithio mewn Gorsafoedd amrywiol ac yn gymysgfa o staff llawn amser ac Ar Alwad. Roedd hi’n torri tir newydd i’r gystadleuaeth gael tîm o ferched yn unig ac fe ddaethpwyd â balchder i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Llongyfarchiadau iddynt oll a gobeithio eu bod wedi ysbrydoli mwy o ymladdwragedd tân i gyfranogi yn y cystadlaethau hyn yn y dyfodol.”
Mae’r tîm – Rheolwr Criw Eleanor Hathaway, Rheolwr Criw Lauren Jones, YT Sonia Hunt, YT Victoria Brailsford a Rheolwr Criw Clare Amor bellach yn brysur yn paratoi ar gyfer Her OA’r flwyddyn nesaf ac yn gwahodd ymgeiswyr eraill ar hyd y Gwasanaeth i ymuno â hwy.