Noson Wobrwyo Cadetiaid Tân
Wedi’i sefydlu’n wreiddiol fel Cynllun Ymladdwyr Tân Ifanc De Cymru bron i ugain mlynedd yn ôl yng Ngorsaf Dân Canol Caerdydd, mae’r cynllun wedi tyfu i gynnwys bron 250 o gadetiaid mewn 10 cangen ar draws ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyda phob cangen yn croesawu 20-30 o bobl ifanc rhwng 11 a 17 oed bob wythnos yn ystod y tymor.
Mae bod yn rhan o’r rhaglen Cadetiaid Tân yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ifanc gael hyd i ystod eang o brofiadau a chymwysterau, dysgu sgiliau allweddol ar gyfer ymladd tân a gweithio mewn tîm yn ogystal â chyflwyno gweithgareddau pwysig yn ymwneud â lleihau risg ac addysgu yn eu Cymunedau.
Y llynedd, daeth ein pobl ifanc yn rhan o fodel Cadetiaid Tân CCPT sy’n golygu erbyn hyn yn eu bod yn gweithio tuag at y safon genedlaethol.
Gwerthfawrogir ein Cadetiaid a’n Hyfforddwyr Tân yn fawr ac maent yn aelodau gwerthfawr dros ben o Dîm De Cymru gan chwarae rhan bwysig yng nghynlluniau rheoli risg cymunedol eu Gorsaf. Mae’r Cadetiaid yn gyfrifol am gynrychioli’r Gwasanaeth mewn digwyddiadau yn eu cymunedau lleol, gweithgareddau elusennol a chodi arian yn ogystal â chyflwyno trafodaethau diogelwch i’w cyfoedion; mewn ysgolion a sefydliadau ieuenctid cyfagos. Mae’r Cadetiaid sydd yn cyflawni eu trydedd flwyddyn gyda ni hefyd wedi cael cyfle i’w hyfforddi ar lefel uwch a’u henwebu ar gyfer rolau newydd sef Prif Gadét Tân a Phrif Gadét Tân Cynorthwyol.
Ddydd Mercher y 24ain o Hydref, cyflwynwyd ystod o wobrau i’r Cadetiaid a’r Hyfforddwyr gan gynnwys Cadét Tân y Flwyddyn a Hyfforddwr y Flwyddyn ym Mhencadlys Tân ac Achub De Cymru. Roedd hyn yn gyfle i’r Gwasanaeth gydnabod cyflawniadau’r bobl ifanc a’r rhai sy’n ymwneud â chynnal ein Rhaglen Cadetiaid llwyddiannus iawn.
Cyflwynwyd y gwobrau gan y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway QFSM, y Cynghorydd Tudor Davies, Cadeirydd yr Awdurdod Tân a Neil Davies, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Ieuenctid, Addysg a Diogelwch ar y Ffyrdd.
Dywedodd Neil Davies, Rheolwr y Grŵp: “Mae’r Cynllun Cadetiaid Tân yn weithgaredd ymgysylltu ieuenctid blaenllaw GTADC, sy’n ein galluogi i gyflawni ein dyletswydd statudol i addysgu a lleihau risg yn ein cymunedau. Ar wahân i hyn, mae’r cynllun yn caniatáu i bobl ifanc ennill sgiliau bywyd, gwella cyflogadwyedd a dinasyddiaeth a chyfrannu tuag at les eu cymunedau lleol.
Fel Pennaeth Gwasanaethau Ieuenctid GTADC rwy’n falch iawn o’u llwyddiannau ac mae’n fraint gen i gymryd rhan yn eu seremoni wobrwyo i ddathlu eu llwyddiannau. ”
Ar ôl bron i ddau ddegawd mae’r rhaglen Ymladdwyr Tân Ifanc /Cadetiaid Tân De Cymru wedi newid bywydau miloedd o bobl ifanc. Mae wedi rhoi cyfleoedd i Gadetiaid ddatblygu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau a gwella eu cyfleodd ar gyfer cyflogadwyedd, gyda nifer o gyfranogwyr yn dilyn gyrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub mewn ystod o rolau gan gynnwys rolau staff gweithredol a staff cymorth.