Tîm Datglymu Pen-y-bont ar Ogwr Cadw Teitl y Byd yn Ne Affrica
Unwaith eto, mae tîm o ymladdwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi profi mai hwythau yw pencampwyr y byd gan ennill Her Sefydliad Achub y Byd am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Teithiodd Tîm Datglymu Pen-y-Bont ar Ogwr o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy’n Bencampwyr y Byd a Chenedlaethol ar hyn o bryd i Capetown, De Affrica, wythnos diwethaf ar yr 22ain i’r 26ain o Hydref, i gystadlu yn y digwyddiad blynyddol mawreddog, yn erbyn 30 o’r timau gorau o 17 o wledydd ar draws y byd.
Heriwyd y tîm i fynd i’r afael â nifer o sefyllfaoedd anodd ar draws tair disgyblaeth; digwyddiad sefyllfa gyflym oedd yn para am 10 munud gydag un achos o anaf, digwyddiad sefyllfa safonol oedd yn para am 20 munud un claf a sefyllfa gymhleth oedd yn para am 30 munud gyda dau glaf. Dyma gyfle i’r tîm arddangos y sgiliau arbenigol y maent yn eu defnyddio yn eu swydd bob dydd gan gadw pobl De Cymru yn ddiogel.
Dyma’r chweched tro i’r tîm gipio teitl y byd yn dilyn misoedd o hyfforddi a pharatoi dwys. Mae eu buddugoliaeth wych yn dod wythnosau yn unig ar ôl i’r tîm gadw eu teitl Cenedlaethol fel enillwyr Her Sefydliad Achub y Deyrnas Unedig, teitl y maent hefyd wedi ei ennill pump gwaith, gyda’r frwydr eleni yn digwydd gartref ym Mae Caerdydd. Erbyn hyn maent wedi creu hanes gyda’r tîm yn ennill pencampwriaethau Cymru, y DU a Chystadleuaeth Byd yn syth ar ôl ei gilydd am3 blynedd yn olynol.
Sgoriodd aelodau Tîm Rheolwr Gorsaf Andrew Morgan, Rheolwr Gorsaf Roger Magan, Rheolwr Criw Les Evans, Rheolwr Gwylfa M Allyn Hosey, Rheolwr Criw Huw Hughes ac Ymladdwr Tân Matthew Greenman yn uchel ym mhob elfen o’r her gyda Chapten y Tîm Rheolwr Gorsaf Andrew Morgan unwaith eto yn ennill gwobr o fri sef Rheolwr Digwyddiadau Gorau gyda Rheolwr Gorsaf M Roger Magan a Rheolwr Criw Les Evans yn cael eu gosod 2il yn y Categori Achub Meddygol.
Dywedodd Andrew Morgan, Arweinydd y Tîm: “Mae’n anrhydedd bur i gystadlu ochr yn ochr â chymaint o dimau gwych o bob cwr o’r byd, ac rydym wrth ein boddau o allu dod â theitl y Byd adref i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
“Yn ogystal â bod yn gystadleuaeth Fyd-eang mae Her Sefydliad Achub y Byd bob amser yn gyfle dysgu gwych i ni ac yn gyfle i gydweithwyr sy’n ymladd tanau ar draws y byd rannu eu Technegau a’u sgiliau achub. Rwyf mor falch o fod yn rhan o grŵp arbennig iawn o bobl sydd unwaith eto wedi llwyddo i ennill buddugoliaeth wych.”
Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Huw Jakeway QFSM: “Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn wych arall i Dîm Datglymu Pen-y-Bont ar Ogwr GTADC ac rwyf am eu llongyfarch ar gamp syfrdanol arall.
“Mae eu sgiliau a’u proffesiynoldeb yn wirioneddol ardderchog ac maent yn gwneud pob un ohonom yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch dros ben.”
Dywedodd Rheolwr Tîm Shaun Moody “Mae hwn yn llwyddiant ysgubol gyda’r tîm yn profi unwaith eto mai nhw yw’r Tîm Achub gorau yn y byd. Mae eu gwaith, eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb wedi creu hanes wrth iddynt yn cyflawni’r “Triphlyg, Triphlyg” yng ngwres eithafol Cape Town. Rhaid talu clod i Huw Hughes a Matthew Greenman yn arbennig gan iddynt ymuno â’r tîm bythefnos yn unig cyn teithio i Cape Town gan nad oedd modd i ddau aelod gwreiddiol o’r tîm deithio.”
Mae’r tîm erbyn hyn yn cael seibiant teilwng cyn cychwyn ar hyfforddiant ddechrau’r flwyddyn nesaf yn barod ar gyfer heriau’r DU a’r Byd 2019.