Lansio Partneriaeth Diogelwch Tân ar Gyfer Tai Cymdeithasol Cymru
Cafodd partneriaeth gydlynol Prydain ar gyfer diogelwch tân yn y sector tai ei lansio yng Nghymru heddiw.
Sefydlwyd y Cynllun Prif Awdurdod gan Cartrefi Cymunedol Cymru mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel ymateb i ffocws cynyddol ar ddiogelwch adeiladau.
Caiff y cynllun yn lansio yn dilyn b0ron flwyddyn o gydweithio rhwng y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a bydd yn rhoi mynediad i gyngor am ddim ar orfodaeth diogelwch tân, materion cyfreithiol, cydymffurfiaeth a phrotocolau presennol i gymdeithasau tai yng Nghymru.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn ymroddedig i sicrhau diogelwch tenantiaid ac mae ganddynt hanes cryf o lwyddiant mewn darparu gwasanaethau sy’n cynnwys esbonio mesurau diogelwch tân i breswylwyr a gosod systemau chwistrellu mewn adeiladau a godwyd eisoes.
Buom yn ymchwilio posibilrwydd sefydlu cynllun Prif Awdurdod Tân cydlynol ar gyfer cymdeithasau tai Cymru ers rhai blynyddoedd. Gyda diogelwch tân yn hollbwysig, daeth yn gynyddol angenrheidiol cael gwasanaeth o’r math hwn ac rydym yn hynod falch fod aelodau yn ymuno eisoes.”
Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch iawn i gyhoeddi lansiad y cynllun Prif Awdurdod Tân mewn partneriaeth gyda Cartrefi Cymunedol Cymru.
“Hwn yw’r cynllun cydlynol cyntaf oll o’i fath yng Nghymru a bydd yn sicrhau safon uchel o reoleiddio cyson ar y Gorchymyn Diogelwch Tân.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Cartrefi Cymunedol Cymru i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i weithredu mesurau gostwng risg, gan eu cynorthwyo i roi blaenoriaeth i’r gwaith sydd ei angen er budd eu busnesau eu hunain a’r gymuned yn ehangach.”