Diffoddwyr tân o Dde Cymru yn taclo â thanau gwyllt yng Ngwlad Groeg
Mae diffoddwyr tân o Dde Cymru â gwybodaeth arbenigol a phrofiad o ymdrin â thanau gwyllt wedi cael eu danfon i Athens yng Ngwlad Groeg i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tanau gwyllt parhaus a dinistriol.
Fel rhan o Dîm hydwythdedd Cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, mae pedwar diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan gynnwys y rhai o dîm arbenigol tanau gwyllt y Gwasanaeth wedi gwirfoddoli ochr yn ochr â chydweithwyr sy’n ddiffoddwyr tân o Lannau Mersi, Swydd Gaerhirfryn, Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Gyda’i gilydd, byddant yn gweithio i frwydro yn erbyn y tanau gyda diffoddwyr tân o Wlad Groeg.
Fel Gwasanaeth rydym yn falch o barhau â thraddodiad hir o ddarparu cefnogaeth i gydweithwyr ledled y byd ac mae ein meddyliau i gyd gyda’r sawl y mae’r drasiedi hon yn effeithio arnynt.
Ceir mwy o fanylion am y rahi a gafodd eu danfon yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos hon