Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ennill Achrediad Sefydliad Cyflog Byw a dod yn gyflogwr ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’
Ddydd Llun yr 20fed o Ragfyr 2021, trafododd a chymeradwyodd aelodau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru’r penderfyniad i ennill Achrediad Sefydliad Cyflog Byw a dod yn gyflogwr ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’.
Cyfrifir y ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ (RLW) yn annibynnol yn seiliedig ar yr hyn y mae gweithwyr a’u teuluoedd ei angen ar gyfer byw. Fel arfer mae hwn yn uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth y DU. Ei bwriad yw ymdrechu i gynrychioli’r gyfradd y byddai’n rhaid i weithiwr ei hennill i fforddio safon byw sydd o leiaf yn ‘dderbyniol’. Mae’r cyflog yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol ac mae cyflogwyr achrededig yn talu’r gyfradd gyflog byw gwirioneddol yn wirfoddol. Dechreuwyd yr ymgyrch i gyflogwyr dalu gweithwyr y CBG yn 2001 ac fe’i hyrwyddwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw.
Cafwyd yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydraddoldeb ei ystyried ar y 1af o Dachwedd 2021, pan gytunwyd y dylai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ennill achrediad.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Cynghorydd Tudor Davies:
“Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn talu gweithwyr yn fwy na’r Cyflog Byw Gwirioneddol ac mae wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig. Mae’r Gwasanaeth yn dibynnu ar bawb sy’n gweithio yma er mwyn gwasanaethu ei gymunedau’n well a chadw De Cymru’n ddiogel.
Mae’r buddsoddiad hwn yn ein pobl yn dangos ein gwerthoedd a’n cred bod pob un o’n pobl yn haeddu cael cyfradd deg am y gwaith y maent yn ei wneud. Bydd cael yr achrediad hwn yn caniatáu i’r Gwasanaeth ddod yn gyflogwr moesegol ac yn arweinydd ar gyfer newid cadarnhaol.”