Diweddariad Achub Reggie!
Ar ôl profi ychydig o ddyddiau garw, rydym yn falch o rannu ychydig o ddiweddariadau am Reggie a’r ymdrechion i’w achub yr wythnos diwethaf.
Ar yr 18fed o Ionawr 2022, roedd Reggie’n mynd am dro gyda’i berchennog pan gwympodd yn ddamweiniol i hollt ar Fynydd Llwynypia a mynd yn sownd yno.
Daeth criwiau lluosol i’r lleoliad ac ar ôl asesu’r sefyllfa ceisiwyd presenoldeb Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (ChATC) a Thîm Achub o Ogofau De a Chanolbarth Cymru (TAODCC) i ddarparu cymorth arbenigol.
Meddai Dean Evans, Rheolwr Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
“Gweithiodd ein criwiau’n effeithiol mewn ymateb amlasiantaethol i weithredu’n strategol a chynorthwyo gyda’r achub gan hefyd yn amddiffyn yr ardal.
Gan fod y golau’n pylu, cefnogodd criwiau’r ymgyrch gan ddarparu offer megis goleuadau a chamerâu a sicrhau bod protocolau iechyd a diogelwch ac asesu risg yn cael eu dilyn.
Roedd hwn yn ddigwyddiad cymhleth dros ben a hoffem ddiolch i’n cydweithwyr yn TAODCC am eu hymateb cyflym a’u sgiliau arbenigol. Hoffem hefyd ddiolch i’r gymuned am eu cefnogaeth a diolch i’n partneriaid gwasanaethau brys am ddarparu cymorth a chyngor yn ystod y digwyddiad hwn.
Er bod hyn yn ganlyniad cadarnhaol ac mae Reggie yn ddiogel ac yn gwella’n dda gyda’i deulu, hoffem annog y cyhoedd i gymryd gofal wrth gerdded gydag anifeiliaid anwes mewn lleoliadau anghyfarwydd neu yn y nos.”
Dywedodd llefarydd dros Dîm Achub Ogofau De a Chanolbarth Cymru:
“Rydym yn ymateb i nifer o ddigwyddiadau tebyg bob blwyddyn, felly rydym yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan ddaw’r alwad gan ein cydweithwyr yn y Gwasanaeth Tân, Tîm Achub Mynyddoedd ac aelodau o’r cyhoedd.
Yn aml, nid yw’r ‘tyllau’ y mae cŵn yn eu canfod mewn lleoliadau sy’n debyg i hyn yn fawr dim na’r cŵn eu hunain. Gallant fod yn eithaf dwfn, gan olygu bod cyrraedd y ci drwy ddefnyddio offer dal cŵn syml yn amhosibl – megis yn yr achos hwn, roedd y ‘twll’ tua 25 troedfedd o ddyfnder
Wrth ddelio â chreigiau caled iawn, mae’n rhaid creu twnnel digon mawr i berson. Rhaid bod yn ofalus iawn wrth wneud hwn, er mwyn osgoi gollwng eitemau i lawr y twll, ac mae angen eitemau ac offer arbenigol.
Yn achos Reggie, anfonwyd tîm yn gyflym i’r ardal i asesu’r sefyllfa, ond roedd hi’n amlwg y gallai’r achubiad hwn gymryd sawl diwrnod. Cymerodd un o’r digwyddiadau achub anifeiliaid a wnaethom yn fwyaf diweddar dri diwrnod cyfan o gloddio i gyrraedd yr anifail. Mae ein tîm wedi buddsoddi mewn system camerâu draen yn ddiweddar, ond yn yr achos hwn, roedd ein tîm yn cael ei berfformio’n fawr gan offer mwy proffesiynol Drainforce Cyf yn gallu perfformio’n well o lawer .
Dyma enghraifft wych o ymateb amlasiantaeth lle gallem ddarparu sgiliau ac offer technegol ac roedd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gallu cefnogi’r tîm a ddanfonwyd, darparu cludiant i’r safle, helpu i reoli’r brwdfrydedd lleol a darparu goleuadau gwaith ac offer defnyddiol eraill.
Roeddem yn falch o gefnogi’r achubiad hwn ac rydym yn falch iawn bod Reggie yn ôl gyda’i berchnogion ac yn ddiogel.”
Dywedodd Drainfroce Cyf:
“Roedd Drainforce yn hapus i helpu’r gymuned wrth achub Reggie ac rydym yn falch ei fod wedi ymuno â’i deulu’n ddiogel unwaith eto.”
Mae perchennog Reggie, Leah Davies, yn Ymladdwr Tân Ar Alwad gyda Gorsaf Tonypandy ac roedd yr ymateb gan bawb wed gwneud argraff fawr arni. Roedd Leah wedi meddwl yn gyflym a defnyddiodd ap What3Words i dagio’r lleoliad lle syrthiodd Reggie gan alluogi’r timau gwasanaethau brys ddod o hyd iddynt ar y mynydd.
Lledodd neges cyfryngau cymdeithasol gan Leah am Reggie yn gyflym dros ben. Roedd nifer o asiantaethau a chwmnïau wedi cynnig cymorth a chyngor gan gynnwys camerâu a pharseli bwyd a gwasanaethau milfeddygol. Hoffai Leah ddiolch a mynegi ei gwerthfawrogiad i’r gymuned am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth anhygoel, gyda diolch arbennig i; Bespoke Rope Access & Rescue, The Chip Stop, Ysbyty Milfeddygol Shepherds.