Diffoddwyr Tân De Cymru yn cystadlu i amddiffyn eu teitl yn Her Achub y Byd 2019
Bydd tîm datglymu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy wedi ennill pencampwriaeth y byd ar lwyfan byd-eang unwaith eto’r mis hwn yn Her Achub y Byd 2019 yn LA Rochelle, Ffrainc.
Dyma’r unfed tro ar bymtheg i’r tîm gystadlu ers eu tro cyntaf yn 2002, yn dilyn misoedd o hyfforddiant a pharatoi dwys. Y llynedd, ennillon nhw bencampwriaeth y byd am y chweched tro, gyda’r tîm hefyd arloesi wrth ennill pencampwriaethau cystadlaethau Cymru, y DU a’r byd dair blynedd yn olynol.
Wrth gystadlu yn erbyn y prif dimau tân ac achub o wledydd ledled y byd, dyma gyfle i’r tîm arddangos y sgiliau elitaidd y maen nhw’n eu defnyddio yn eu gwaith bob dydd i gadw pobl De Cymru’n ddiogel yn ogystal ag amlygu unigolion newydd wrth i’r tîm barhau i ddatblygu.
Gan gyrraedd LA Rochelle ar gyfer y seremoni agoriadol Ddydd Mercher y 12fed o Fedi a chystadlu o Ddydd Iau tan Ddydd Sul, byddant hefyd yn treulio diwrnod yn mynychu gweithdai addysgol yn cynnwys y datblygiadau diweddaraf o ran arloesi technegol a meddygol yn ogystal â thechnoleg cerbydau newydd.
Yn cystadlu eleni mae Andy Morgan sy’n Rheolwr Gorsaf, Al Hosey sy’n Rheolwr Gwylfa, Roger Magan sy’n Rheolwr Gorsaf, Mark Iles sy’n Rheolwr Gorsaf, Les Evans sy’n Rheolwr Criw, Matt Leman sy’n Ddiffoddwr Tân, Rob Buckley sy’n Ddiffoddwr Tân a Matthew Greenman sy’n ddiffoddwr tân ac yn aelod tîm wrth gefn. Mae newidiadau eleni’n cynnwys dyrchafu Rheolwr Gorsaf Morgan i fod yn rheolwr y tîm, Rheolwr Gorsaf Magan yn gadael ei rôl fel meddyg i gyflawni rôl Rheolwr Digwyddiadau a Diffoddwr Tân Bwcle yn ymuno â’r tîm am y tro cyntaf. Mae Greenman, diffoddwr tân a drosglwyddodd i’r Gwasanaeth yn ddiweddar ac sydd erbyn hyn yn gweithio yn Nhrelái, yn teithio o gwmpas ar hyn o bryd mewn rôl gefnogol. Estynnir croeso mawr iddo, wrth iddo ddychwelyd i’r tîm am yr ail flwyddyn yn olynnol.
Dywedodd Andrew Morgan, Rheolwr y Tîm: “Fel bob tro arall, mae’n anrhydedd mawr i ni gael cynrychioli’r Gwasanaeth ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chydweithwyr o bob cwr o’r byd mewn digwyddiad sy wastad yn fendigedig.
“Mae’r cynnwys ychydig yn wahanol eleni yn dangos bod cyfleoedd i bobl gyda’r tîm hwn, gan gynnwys cyfle i ddatblygu a thyfu i rolau newydd.
“Yn ogystal â bod yn gystadleuaeth fyd-eang ardderchog, rydym yn ymwybodol bod hon hefyd yn ddigwyddiad pwysig lle gallwn gael hyd i ddysgu o’r safon uchaf yn ogystal â chymryd rhan yn yr hyfforddiant diweddaraf oll.
“Edrychwn ymlaen at ddod â’r wybodaeth hon yn ôl i’w rhannu gyda’n cydweithwyr a’i gweithredu yn ein dyletswyddau bob dydd, gan gadw pobl De Cymru’n ddiogel.”