Nid yw byw mewn fflat yn cynyddu eich siawns o gael tân. Yn y rhan fwyaf o achosion o danau mewn adeiladau canolig neu uchel bydd hi’n ddiogel i chi aros yn eich fflat, os oes gan eich adeilad weithdrefn wacáu “aros yn y fan a’r lle”. Mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod ac yn deall eich gweithdrefnau gwacáu adeiladau a lle gallwch chi gael gwybod am unrhyw newidiadau. Fel arfer gwneir hyn drwy eich tîm rheoli adeiladu neu eich landlord.
Larymau mwg:
Gall larymau mwg gweithredol achub bywydau. Os nad oes larwm wedi’i osod yn eich fflat, gellir ei brynu mewn archfarchnadoedd a siopau DIY. Fel arall, gallwch ofyn am gwiriad tan yn y cartref
Adnabod eich llwybr dianc:
Os bydd tân yn eich fflat, dyma beth ddylech chi wneud:
- Os bydd eich llwybr dianc wedi’i rwystro gan dân neu fwg, arhoswch mewn i ystafell heb fwg, ac yn ddelfrydol un gyda ffenestr sy’n agor a ffoniwch 999
- Cadwch y drws ar gau a rhowch dywelion neu ddillad gwely ar waelod y drws i rwystro’r mwg
- Os yw’n ddiogel i chi wneud, ewch i falconi neu ffenestr er mwyn i chi gael eich gweld. PEIDIWCH â neidio
- Defnyddiwch eich llwybr arferol i fynd allan – OND peidiwch â defnyddio’r lifft, ni fydd y lifftiau’n gweithio.
- Os na allwch ddefnyddio’r grisiau’n ddiogel ar eich pen eich hun ewch i loches neu fan diogel (e.e. fflat cymydog) a ffoniwch 999.
- Peidiwch â stopio i weld beth sy wedi digwydd na cheisio achub eiddo – ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999 pan fo’n ddiogel i wneud hynny.
- Caewch y drws ar dân bob amser, bydd hyn yn arafu lledaeniad tân a mwg.
- Ewch i gyfarfod â’r gwasanaeth tân pan fyddant yn cyrraedd i roi gwybodaeth iddynt am leoliad y tân.Arhoswch i gael eich achub gan ddiffoddwr tân a gwrandewch ar yr holl gyngor a roddir gan yr adran reoli tân
Os bydd tân rhywle arall yn yr adeilad:
- Dilynwch eich gweithdrefnau gwacáu adeiladau
- Os bydd eich trefn adeiladau yn dweud am aros yn llonydd, arhoswch yn eich fflat oni bai bod mwg neu fflamau’n dod i mewn. Os oes angen i chi ddianc ffoniwch 999 ac arhoswch am gyfarwyddiadau.
- Os bydd eich trefn adeiladau yn dweud am wacáu, gwnewch hynny’n dawel ac yn ddiogel. Os na allwch ddianc am unrhyw reswm, ewch i le sy’n glir o fwg a ffoniwch 999.
- Os bydd diffoddwyr tân angen i chi wacáu byddant yn cysylltu â chi erbyn…
- Gwrandewch ar (gorsaf radio leol) a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich strategaeth gwacáu adeiladau
- Gwyliwch gyfryngau cymdeithasol GTADC am ddiweddariadau rheolaidd ar y tân ac unrhyw newid i’r strategaeth gwacáu.
- Os oes angen i chi adael am reswm arall (hy mynychu gwaith / ysgol ac ati) ffoniwch 999 cyn gadael eich fflat i sicrhau eich bod yn ddiogel i wneud hynny.
Os byddwch chi’n cael eich ynysu gan dân:
- Os bydd eich llwybr dianc wedi’i rwystro gan dân neu fwg, arhoswch mewn i ystafell heb fwg, ac yn ddelfrydol un gyda ffenestr sy’n agor a ffoniwch 999
- Cadwch y drws ar gau a rhowch dywelion neu ddillad gwely ar waelod y drws i rwystro’r mwg
- Os yw’n ddiogel i chi wneud, ewch i falconi neu ffenestr er mwyn i chi gael eich gweld. PEIDIWCH â neidio
- Arhoswch i gael eich achub gan ddiffoddwr tân a gwrandewch ar yr holl gyngor a roddir gan yr adran reoli tân
Balconïau
- Os oes gan eich fflat falconi peidiwch â defnyddio’r ardal hon i gael barbeciw neu bwll tân
- Os ydych chi’n ysmygu ar eich balconi gwnewch yn siŵr bod eich sigarét wedi’i ddiffodd yn iawn a pheidiwch byth â’i thaflu dros yr ochr
- Peidiwch byth â chynnau tân gwyllt ar eich balconi
- Peidiwch â gosod pren ychwanegol, sgriniau na lloriau ar y balconi, gallai hyn achosi i dân ledu.
- Rhowch wybod i’ch rheolwr adeiladu am unrhyw ddifrod i’ch balconi
- Cyfyngwch ar yr hyn rydych chi’n ei storio ar eich balconi gan y gallai achosi i dân ledaen