Cadw’n ddiogel yn eich adeilad

  • Dylai eich drws ffrynt fod yn ddrws tân gyda theclyn i’r drws gau ei hunan sy’n gweithio. Os oes angen ei newid, rhowch wybod i’ch rheolwr adeiladu neu’ch landlord
  • Dylai drysau i’r grisiau hefyd fod yn ddrysau tân theclyn i’r drws gau ei hunan. Dylai fod ar gau bob amser. Os oes problemau, rhowch wybod i’ch rheolwr adeiladu.
  • Cadwch y cynteddau a’r grisiau yn glir rhag unrhyw rwystrau
  • Peidiwch byth â gwefru cerbydau trydan mewn cynteddau na mewn llefydd a all rwystro eich allanfa
  • Dylid datgloi allanfeydd tân, gyda llwybrau clir yn arwain atynt ac arwyddion digonol
  • Gwaredwch sbwriel yn briodol
  • Dylai fod arwyddion clir ar bob llawr a drws
  • Dylai fod man lloches i bobl ag anableddau aros yn ddiogel i gael eu hachub
  • Dylai pawb yn yr adeilad wybod ble i gael gwybodaeth am drefn gwacáu’r adeilad a chynlluniau diogelwch tân

Rhowch wybod i’ch rheolwr adeiladau am unrhyw faterion adeiladu. Os na chaiff y materion hyn eu gwirio o fewn amser rhesymol, dilynwch y ddolen isod i adrodd am fater diogelwch tân i’n Hadran diogelwch Tân i Fusnesau – firesafety@southwales-fire.gov.uk

 

Os ydych chi’n rheolwr adeiladu neu’n landlord, dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth.