Cysylltu â ni
Llenwch y ffurflen hon ar gyfer ymholiadau, cwynion a chanmoliaeth.
Sut rydym yn ymdrin â Chwynion:
Darllenwch y ddogfen hon sy’n esbonio sut byddwn ni’n ymateb i gwynion.
Cwynion Mewnol a Phryderon:
Mae gan y Gwasanaeth broses fewnol er mwyn i staff godi pryderon a chwynion.
Cwynion a Phryderon Allanol:
Ar hyn o bryd mae dau ddull i staff a’r cyhoedd gwyno neu godi pryderon y tu allan i GTADC.
Ar gyfer materion nad ydynt yn argyfwng neu i gysylltu ag aelod o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ffoniwch 01443 232000
Rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd i’w gwneud hi’n haws i bawb gysylltu â ni ac rydym ni’n darparu:
Gwasanaeth Cyfieithu trwy Linell Iaith, mewn 100 o ieithoedd, sydd ar gael ym mhob lleoliad
Ffôn testun ar gyfer y rheiny sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio ffonau confensiynol - ffoniwch 01443 232000
Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref 0800 169 1234
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Forest View
Llantrisant!
CF72 8LX
E-bost: gtdc@decymru-tan.gov.uk
Mae gennym ni ddisgwyliad uchel o’n holl staff, yn enwedig wrth ymdrin â chi. Gobeithiwn y byddwch chi’n meddwl ein bod ni’n gyfeillgar, hygyrch a chymwys. Weithiau, mae pethau’n mynd o’i le a bydd yn ein helpu ni i wella gwasanaethau os rhowch wybod i ni sut gallent fod wedi bod yn well. Os dymunwch wneud cwyn, llenwch y ffurflen ar-lein.
Hoffem wybod hefyd pan fyddwch chi wedi derbyn gwasanaeth arbennig o dda. Mae canmoliaeth yn bwysig i ni oherwydd gallwn ni ddysgu o’r hyn rydym ni’n ei wneud yn iawn, ac adeiladu ar hyn. Llenwch y ffurflen ar-lein.