Cynlluniwch eich taith! Os ydych yn bwriadu gyrru heddiw, cynlluniwch eich taith cyn i chi gychwyn.
Wiriadau Cyn Teithio :
Os ydych yn bwriadu gyrru heddiw, cynlluniwch eich taith cyn i chi gychwyn:
- Gwrandewch ar ragolygon y tywydd a chyflwr y ffyrdd
- Gadewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith os yw’r amgylchiadau teithio’n wael
- Oedwch eich taith os bydd y tywydd yn mynd yn ddifrifol
- Sicrhewch eich bod wedi gwneud eich archwiliadau diogelwch cerbydau
Gyrru yn ystod glaw trwm
Gall gyrru pan fydd ffyrdd mewn cyflwr gwlyb fod yn beryglus, cadwch yn ddiogel a pharatowch ar gyfer tywydd gwlyb:
- Defnyddiwch y prif oleuadau pen pan fydd gwelededd yn gwaethygu.
- Archwiliwch y sychwyr ffenestri a’u hadnewyddu’n rheolaidd os ydynt wedi treulio neu eu difrodi. Rhowch y cyfle gorau i chi eich hun allu gweld yn glir mewn tywydd gwlyb.
- Gadewch ddwywaith gymaint o bellter rhwng eich car a’r car o’ch blaen, gan fod pellteroedd stopio’n cael eu cynyddu gan ffyrdd gwlyb.
- Os na fydd y llywio’n ymateb o ganlyniad i’r glaw, peidiwch â defnyddio’r cyflymydd ac arafwch yn raddol.
Gyrru ar ffyrdd â llifogydd a dŵr sy’n cronni
- Peidiwch â cheisio gyrru drwy ddŵr sy’n symud yn gyflym, megis wrth ddynesu at bontydd dan ddŵr – gallai eich car gael ei ysgubo ymaith yn hawdd.
- Osgowch ddŵr sy’n cronni os gallwch ac addaswch eich cyflymder i’r amgylchiadau.
- Gall teiars golli cysylltiad â’r ffordd a gallai hyn arwain at golli rheolaeth ar lywio (a elwir hefyd yn ‘llithro ar ddŵr’). Os byddwch chi’n llithro ar ddŵr, daliwch yr olwyn lywio yn ysgafn a pheidiwch â defnyddio’r throttle nes bod y teiars yn cydio yn y ffordd eto.
- Gall gyrru drwy ddŵr ar gyflymder uwch nag araf iawn arwaiin at ddŵr yn cael ei daflu ar balmentydd, gan wlychu cerddwyr neu feicwyr. Gallech wynebu dirwy sylweddol yn ogystal â rhwng tri a naw pwynt cosb os yw’r heddlu’n credu eich bod yn gyrru heb ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffyrdd eraill.
- Os byddwch chi’n deall eich bod chi’n gyrru drwy ddŵr sy’n cronni, defnyddiwch gêr isel fel bod yr injan yn troi’n gynt; neu mae’n bosib i ddŵr yn y beipen gwacáu niweidio’r trawsnewidydd catalytig.
- Os byddwch chi’n torri i lawr mewn glaw trwm peidiwch â gadael y boned yn agored tra byddwch chi’n aros i’r patrol gyrraedd. Bydd yr injan yn fwy anodd ei chychwyn eto os yw’r gwifrau trydanol i gyd wedi cael eu socian gan law.