Pam fod gyrwyr ifanc yn fwy tebygol o gael damwain ffordd?
Mae 25% o yrwyr a theithwyr sy’n marw mewn damweiniau ffordd O DAN 25 oed! Mae ymchwil yn dangos bod cyfuniad o ieuenctid a diffyg profiad yn sicrhau bod gyrwyr ifanc mewn mwy o berygl. Mae eu diffyg profiad yn golygu bod ganddynt lai o allu i weld peryglon, tra bod eu hieuenctid yn golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o gymryd risg.
Mae’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at bobl ifanc yn achosi damweiniau ffordd yn cynnwys:
- Goryrru
- Pwysau gan gyfoedion
- Diffyg profiad
- Peidio â gwisgo gwregysau diogelwch
- Defnyddio ffonau symudol
- Diffyg canolbwyntio
Diffyg profiad
- Oherwydd diffyg profiad, rhaid i yrwyr ifanc ganolbwyntio’n fwy ar dasgau ymarferol sy’n golygu eu bod nhw’n arafach o ran ymateb i beryglon ac yn fwy tebygol o gael damwain
Alcohol a Chyffuriau
- Gyrwyr ifanc yw’r troseddwyr mwyaf cyffredin o ran damweiniau ffordd sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau. Mae gyrwyr ifanc ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan alcohol a chyffuriau o gymharu â gyrwyr hŷn
Diffyg Canolbwyntio
- Mae gyrru yn galw am gydbwyso tasgau ymarferol ac adnabod peryglon yn barhaus. Rhaid i yrwyr ifanc ganolbwyntio’n fwy ar dasgau ymarferol sy’n golygu eu bod nhw’n arafach o ran newid rhwng tasgau ac yn ymateb yn arafach i beryglon
Ffonau Symudol
- Gwelir yn gyson bod gyrrwyr iau yn debycach o ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru, yn enwedig ffonau llaw, ac hynny ar gyfer mwy o lawer na galwadau yn unig
Dim gwregysau diogewlch
- Mae gyrwyr a theithwyr ifanc yn llai tebygol o wisgo gwregysau diogelwch oherwydd pwysau cyfoedion
Pwysau Cyfoedion
- Mae pwysau cyfoedion yn gallu annog gyrru gwael ac arwain at bobl ifanc yn teimlo bod angen iddynt frolio a chymryd mwy o risgiau. Mae hynny’n golygu eu bod nhw 4 gwaith yn fwy tebygol o gael damwain os oes pobl o’r un oedran â nhw’n teithio yn y car gyda nhw
Goryrru
- Mae goryrru’n ffactor allweddol mewn damweiniau ffordd sy’n cynnwys pobl ifanc