Gweld neu lawrlwytho taflen Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ar ddiogelwch dŵr, a gynlluniwyd ar gyfer plant ysgol ifanc. Cliciwch ar y llun i’w lawrlwytho:
Negeseuon
Parchwch y dŵr. Beth bynnag rydych yn ei wneud a beth bynnag eich gallu i nofio, mae gan ddŵr y gallu i’ch synnu. Mae’n hawdd peidio â gwerthfawrogi ei bŵer.
Arhoswch yn ddiogel trwy adnabod y peryglon. Efallai eich bod yn nofiwr cryf mewn dŵr cynnes pwll nofio dan do, ond nid yw hynny’n golygu y byddwch yn gallu nofio mewn dŵr oer yn y môr, mewn afonydd, chwareli neu gronfeydd dŵr.
Peidiwch ag anwybyddu cyngor diogelwch, baneri arbennig ac arwyddion sy’n eich rhybuddio o unrhyw beryglon. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â phob arwydd a beth maen nhw’n ei ddweud wrthoch chi.
Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun oherwydd, os byddwch yn cael trafferth mewn dŵr agored, ni fydd unrhyw un wrth law i’ch helpu. Dylai plant nofio yng nghwmni oedolyn bob amser.
Peidiwch â mynd i nofio ar ôl yfed alcohol. Mae alcohol yn chwarae rhan mewn nifer o ddamweiniau dŵr oherwydd ei fod yn amharu ar eich gallu i wneud penderfyniadau, y ffordd rydych yn ymateb a’ch gallu i nofio.
Mae dŵr oer yn gallu cael effaith eithafol ar eich corff. Yn aml, mae’r sioc sy’n gysylltiedig â dŵr oer yn gallu achosi pobl i foddi.
Mae effeithiau cychwynnol dŵr oer yn lleddfu ar ôl munud, felly peidiwch â cheisio nofio yn syth ar ôl neidio i’r dŵr.
Ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn er mwyn dal eich gwynt. Ceisiwch ddal rhywbeth a fydd yn eich helpu chi i arnofio.
Pwyllwch ac yna galwch am help, neu nofiwch at y lan os gallwch wneud hynny.
Diffinnir tymheredd is na 15ºC fel dŵr oer. Mae dŵr oer yn cael effaith andwyol ar eich anadlu a’ch gallu i symud.
Ar gyfartaledd, tymheredd y môr yn y DU yw 12ºC yn unig. Mae afonydd yn oerach fyth, hyd yn oed yn ystod yr haf. Mae’r perygl o gael sioc dŵr oer yn sylweddol trwy gydol y flwyddyn.
Mae llyncu dim ond hanner peint o ddŵr yn gallu achosi i oedolyn ddechrau boddi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gofal meddygol ar unwaith.
Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, mewn dŵr neu yn agos at ddŵr, yn llawer o hwyl. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon posib ac annog pobl i fod yn ddiogel, yn hytrach nag atal ein cymunedau rhag mwynhau llwybrau dŵr y DU.
Nid oedd 50% o bobl sy’n boddi yn disgwyl bod yn y dŵr yn y lle cyntaf.
Peryglon dŵr
Mae’r dŵr yn oer iawn ac mae’n gallu achosi sioc dŵr neu hypothermia.
Efallai bod y dŵr yn cynnwys cerrynt cudd a fydd yn ei gwneud hi’n anodd iawn i chi nofio’n ôl at y lan.
Efallai y bydd hi’n anodd dod allan o’r dŵr oherwydd glannau llithrig.
Efallai bod y dŵr yn ddyfnach na’r disgwyl. Mae hi’n anodd dyfalu dyfnder dŵr.
Efallai bod peryglon cudd yn cuddio o dan arwyneb y dŵr, e.e. trolïau siopa, gwydr ac ati.
Nid yw achubwyr bywyd yn patrolio afonydd, chwareli a chronfeydd dŵr.
Efallai bod y dŵr wedi’i lygru, a allai achosi salwch.
Mewn argyfwng
Ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub (yn fewndirol) neu Wylwyr y Glannau (ar yr arfordir).
Gweiddiwch “Nofia ata i” i’r person sydd mewn trafferth.
Taflwch rywbeth atynt a fydd yn eu helpu i arnofio.
Helpwch nhw os yw hynny’n bosibl.
Peidiwch â mynd mewn i’r dŵr. Efallai y byddwch chi’n cael trafferth nofio hefyd.
Os ydych yn gweld rhywun sy’n mynd i niweidio ei hun, ffoniwch 999.
Diogelwch Dŵr y Gaeaf
Rydym yn eich annog i gymryd gofal arbennig o amgylch dŵr agored y gaeaf hwn, yn enwedig os yw wedi rhewi:
Cadwch eich cŵn ar dennyn.
Cadwch draw o’r ymyl wrth gerdded ochr yn ochr â dŵr.
PEIDIWCH BYTH â mynd i’r dŵr nac i’r rhew ar ôl eich ci.
Yn lle hynny, symudwch i rywle y bydd y ci yn gallu dringo allan a ffoniwch nhw tuag atoch chi.
Os nad yw hyn yn bosibl, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999.
Os gwelwch rywun yn cwympo drwy’r iâ, gwaeddwch am help a ffoniwch 999 ar unwaith.
“Ar gyfartaledd, mae 37 o bobl yn marw bob blwyddyn mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru.” – Cronfa ddata digwyddiadau WAID Water
“Mae un person yn boddi bob 20 awr yn y DU.” – Y Gymdeithas Achub Bywydau Frenhinol
“Boddi yw’r achos trydydd uchaf o farwolaethau damweiniol ymysg plant yn y DU.” – Y Gymdeithas Achub Bywydau Frenhinol
“Nid oedd 40% o bobl sy’n boddi yn disgwyl bod yn y dŵr yn y lle cyntaf.” – Y Gymdeithas Achub Bywydau Frenhinol
Alcohol
Ni ddylech fynd mewn i’r dŵr ar ôl yfed alcohol. Mae alcohol yn cyfrannu at nifer o ddamweiniau cysylltiedig â dŵr. Mae alcohol yn amharu ar eich gallu i wneud penderfyniadau, y ffordd rydych yn ymateb a’ch gallu i nofio. Os ydych yn bwriadu yfed alcohol, gwnewch hynny ar ôl bod yn nofio. Mae nifer o ddamweiniau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn digwydd ger, yn hytrach nac yn, y dŵr. Felly, os ydych chi allan yn yfed ger y môr neu ger afon, gofalwch fod eich ffrindiau i gyd yn ddiogel. – Ymgyrch Parchu’r Dŵr yr RNLI
Sioc dŵr oer
Mae dŵr oer yn gallu cael effaith eithafol ar eich corff. Yn aml, mae’r sioc sy’n gysylltiedig â dŵr oer yn gallu achosi pobl i foddi. Diffinnir tymheredd is na 15oC fel dŵr oer. Mae dŵr oer yn cael effaith andwyol ar eich anadlu a’ch gallu i symud. Ar gyfartaledd, tymheredd y môr yn y DU ac Iwerddon yw 12oC yn unig, tra bod afonydd yn oerach fyth, hyd yn oed yn ystod yr haf, sy’n golygu bod yna berygl sylweddol trwy gydol y flwyddyn. Mae sioc dŵr oer yn achosi gwaedlestri’r croen i gau, sy’n cynyddu gwrthsafiad llif y gwaed. Yn ogystal, mae cyfradd y galon yn cynyddu. O ganlyniad, rhaid i’r galon weithio’n galetach wrth i bwysedd gwaed gynyddu. Mae sioc dŵr oer yn gallu achosi trawiadau ar y galon, hyd yn oed ymysg pobl ifanc ac iach. Yn ogystal, mae oeri cyflym y croen yn gallu achosi pobl i frwydro am anadl. Gall cyfraddau anadlu newid yn afreolus, weithiau’n cynyddu hyd at ddengwaith. Mae’r holl ymatebion hyn yn cyfrannu at deimlad o banig, ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o lyncu dŵr yn uniongyrchol i’r ysgyfaint. Gall hynny ddigwydd yn gyflym iawn: Mae llyncu dim ond hanner peint o ddŵr yn gallu achosi i oedolyn ddechrau boddi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gofal meddygol ar unwaith. – Ymgyrch Parchu’r Dŵr yr RNLI
Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dŵr, ac yn agos at ddŵr, yn llawer o hwyl, ac nid bwriad Wythnos Atal Boddi a Diogelwch Dŵr yw atal pobl rhag mwynhau eu hunain, ond yn hytrach codi ymwybyddiaeth o’r peryglon posibl ac annog pobl i fod yn ddiogel. – Cymdeithas Prif Swyddogion Tân