Doethi Danau Gwyllt
Gyda’r tymhorau ar dro, a’r addewid o dywydd braf ar y gorwel, dyma adeg dda i fwynhau gweithgareddau yn yr awyr iach, i drefnu gwyliau, i wersylla gyda’r teulu, ac i fwynhau eich ardal leol.
Er hyn, daw’r Haf â’i beryglon hefyd, oni fyddwch chi’n dilyn canllawiau diogelwch ymarferol a chywir sy’n addas i’r adeg hon o’r flwyddyn. Trwy wneud rhai paratoadau syml a chymryd ychydig mwy o ofal gallwch gadw’ch hun, eich teulu, eich cymunedau a’r amgylchedd yn ddiogel.
Yn yr haf, gall glaswelltir a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy’n golygu y gall tân sydd wedi’i gynnau y tu allan ledaenu yn gyflym iawn, gan ddinistrio popeth sydd ar ei lwybr.
Mae tanau gwyllt yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt bob blwyddyn. Bydd partneriaid y Bwrdd Tanau Gwyllt yn ymrwymo i weithio gyda’n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.
Trwy weithio gyda’n cymunedau i rannu gwybodaeth, ein gobaith yw gwella dealltwriaeth o’r hyn y gallwn ei wneud i atal tanau gwyllt rhag digwydd ac i gyfyngu ar y difrod y gallant ei wneud i’r amgylchedd.
Caiff ei gyflwyno trwy Siarter Tanau Gwyllt, a’i nod yw adeiladu ar y sylfaen o wybodaeth a phrofiad a enillwyd dros y degawd diwethaf, a hynny gan ystyried perygl hollbresennol newid hinsawdd yn ogystal â chydnabod gwerth annog cymunedau ac unigolion i weithio gyda’i gilydd i ddiogelu’r ardaloedd lle maent yn byw ac yn gweithio ac ardaloedd maent yn ymweld â nhw.
Amcan y bwrdd yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, ac i wrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru. Trwy ddefnyddio’r dull cydweithredol hwn, mae’r asiantaethau sy’n rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio cynnig gwell dealltwriaeth o’r hyn y gellir ei wneud i gyfyngu ar nifer y tanau gwyllt, a thrwy hynny leihau’r difrod y gallant ei achosi i’n hamgylchedd.
Yn 2024, ymatebodd gwasanaethau tân ledled Cymru i 977 achos o danau glaswellt – roedd hyn yn ostyngiad o 47% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda nifer y tanau glaswellt bwriadol wedi gostwng 576 (44%) i 713.
Bydd dull Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru o reoli’r risg o danau gwyllt yn cynnwys tair thema allweddol, gyda phob un wedi’i dylunio er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny sydd angen y mwyaf o sylw a’r meysydd a fydd yn gwella’n dealltwriaeth ni o danau gwyllt a’n gallu i gyfyngu ar eu heffaith.
Os ydych allan yng nghefn gwlad ac yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw trwy alw 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Daeth y cyfnod llosgi grug a glaswellt gyda Chynllun Llosgi i ben ar 15 Mawrth (31 Mawrth yn ardaloedd yr ucheldir).
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn parhau i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, a gyda’n gilydd rydym yn ceisio atal colled bioamrywiaeth yng Nghymru. Rydym yn deall y gall llosgi dan reolaeth fod yn fuddiol ac yn dda i’n tirwedd, a’i fod yn meithrin amrywiaeth fiolegol ac yn creu ecosystemau iachach.
Gall ffermwyr a thirfeddianwyr barhau i losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth ar ucheldir), ond rhaid iddyn nhw gael Cynllun Llosgi er mwyn sicrhau eu bod yn llosgi’n ddiogel. Mae’n anghyfreithlon llosgi rhwng machlud haul a’r wawr, ac mae’n rhaid sicrhau bod digon o bobl ac offer wrth law trwy’r adeg er mwyn rheoli’r llosgi. Gall torri’r rheolau hyn arwain at gosb o hyd at £1000. Rydym eisiau gweithio gyda’n tirfeddianwyr lleol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Gallwch gysylltu â ni am gyngor rhad ac am ddim ar losgi diogel, ac mae mwy o wybodaeth i’w gael yma Diogelwch Tân Fferm.
Gallwch ddysgu mwy am y Cod Llosgi Grug a Glaswellt a lawrlwytho Cynllun Rheoli Llosgi yma Gwefan Llywodraeth Cymru.
Os gwelwch dân sy’n edrych fel y gallai fod allan o reolaeth neu’n cael ei losgi’n anghyfreithlon, yna ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Er y gall damweiniau ddigwydd, mae rhai yn ein cymunedau sy’n mynd ati i gynnau tanau bwriadol yng nghefn gwlad. Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd, ac mae’r Tasglu yn apelio am wybodaeth am unrhyw un sy’n cynnau tanau bwriadol. Gallwch ffonio 101 neu wneud adroddiad dienw i CrimeStoppers trwy alw 0800 555 111. Mae dienw yn golygu na fydd eich rhif ffôn symudol, eich cyfeiriad, na lleoliad eich galwad yn cael eu holrhain. Bydd y rhai sy’n cael eu dal yn cael eu herlyn.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan ein tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, tîm sy’n datrys problemau ac sydd wedi ymroi i leihau ac atal tanau bwriadol. Mae’r tîm yn cynnwys Swyddog Heddlu ar secondiad, Swyddog Tân a thri chynghorydd tanau bwriadol arbenigol, ac maen nhw’n sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei ymchwilio a’i ddadansoddi’n drylwyr er mwyn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae’r tîm yn cydweithio’n agos â’i bartneriaid er mwyn targedu ardaloedd lle ceir problemau’n aml ac i ddatblygu ffyrdd o leihau tanau bwriadol ac i nodi pwy neu beth y gallai fod effaith arnynt.
Er gwaethaf ein llwyddiannau ni yn y gorffennol, mae tanau gwyllt ledled Cymru yn parhau i fod yn berygl parhaol i’n hamgylchedd, i’n heconomi ac i’n cymunedau, a thros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi gweld arwyddion cynnar bod y gostyngiad yn nifer yr achosion yn arafu, gan awgrymu y gallem fod angen dull newydd o weithredu i ddiogelu ein cymunedau.
Nod Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru, gyda’r dull aml-asiantaethol o ymdrin ag ymwybyddiaeth tanau gwyllt, yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, ac i wrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru.
Dyma pam rydym wedi datblygu’r dudalen hon, lle gall holl bartneriaid, cyfranwyr a rhanddeiliaid yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt gael gafael ar yr holl ddeunyddiau yn rhwydd:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch dull cyfathrebu’r ymgyrch Doeth i Danau Gwyllt, neu os hoffech drafod unrhyw ddeunyddiau ychwanegol a allai fod yn fuddiol i’r ymgyrch, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.
Diolch yn fawr,
Swyddfa’r Wasg GTADC
media@southwales-fire.gov.uk
Mae’r dogfennau isod wedi’u cymeradwyo i’w cyhoeddi.
Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch yr holl negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol wedi eu cymeradwyo
Social Media Images
Lawrlwythwch y Casgliad Cyfryngau Cymdeithasol
#DoethIDanauGwyllt: Cynllun Cyfathrebu Bwrdd Aml-Asiantaeth Tanau Gwyllt Cymru
Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.
Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Social Media Images
Lawrlwythwch y Delweddau
Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.
Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau
Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.
Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau
Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.
Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau
Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.
Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau
Deunydd hyrwyddo a ddefnyddir yn yr ymgyrch #DoethiDanauGwyllt.
Negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y negeseuon Cyfryngau Cymdeithasol
Delweddau Cyfryngau Cymdeithasol
Lawrlwythwch y Delweddau