Yn ystod cyfnodau o dywydd poeth ar draws De Cymru, rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i ymddwyn yn gyfrifol.
Mae tymereddau eithafol yn cyflwyno amrywiaeth o heriau i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a chynghorir ein cymunedau i feddwl ddwywaith cyn gwneud unrhyw beth sy’n ymwneud â fflam noeth neu ddŵr agored.
Mae tywydd sych, cynnes yn golygu risg uchel o danau damweiniol a thanau gwyllt, felly rydym yn cynghori:
- Os ydych chi yn yr awyr agored – mae risg uchel o danau damweiniol o ganlyniad i farbeciws, sigaréts ynghyn, poteli gwydr ac ati, felly cofiwch gael gwared ar y deunyddiau hyn yn gyfrifol.
- Peidiwch â llosgi unrhyw wastraff, er enghraifft sbwriel neu wastraff o’rardd – defnyddiwch wasanaethau casglu gwastraff, ailgylchu a chompostio awdurdodau lleol yn lle hynny.
- Rydym yn argymell diffodd offer trydanol nad ydynt yn cael eu defnyddio. Yn ogystal â helpu i gadw eich tŷ yn oerach, mae hefyd yn atal unrhyw offer trydanol rhag gorboethi. Ein cyngor bob amser yw peidio byth â gorlwytho socedi, trwy gofio rhoi un plwg yn unig ym mhob soced.
- Os gwelwch dân neu unrhyw un yn cynnau tân, ffoniwch 999 fel y gellir mynd i’r afael ag ef cyn gynted â phosibl.
Cofiwch mai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
- Methu darparu gwasanaethau torri gwair
- Methu llenwi pyllau nofio
- Yn annog pobl i beidio â llosgi dan reolaeth
Parchwch y dŵr, os ydych chi’n ceisio oeri o amgylch dyfrffyrdd:
- Gall dŵr fod yn oer o hyd yn ystod yr haf, felly byddwch yn ofalus rhag ofn i chi gael sioc dŵr oer.
- Mae lefelau dŵr yn is o ganlyniad i’r cyfnod o dywydd sych parhaus, felly peidiwch â phlymio i ddŵr nad ydych chi’n gyfarwydd ag ef.
- Fel arfer nid yw cronfeydd dŵr a chwareli yn lleoedd diogel i nofio.
- Os ydych mewn perygl, dylech chi arnofio i fyw, peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i achub rhywun neu anifail anwes – ffoniwch 999 ar unwaith os oes perygl i fywyd.
- Os bydd perygl yn y dŵr, mewn lleoliadau mewndirol – gofynnwch am y Gwasanaeth Tân. Ar yr arfordir – gofynnwch am Wylwyr y Glannau.
- I gael mwy o wybodaeth am ddiogelwch dŵr, ewch i’n tudalen we diogelwch dŵr.
Er mwyn lleihau effaith y gwres anffafriol: