Ymateb Tanau Gwyllt – Diweddariadau
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Diweddariad ynghylch ymholiadau’r wasg
Gan fod nifer fawr o danau gwyllt a nifer uchel o alwadau wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf, hoffem ofyn i bob ymholiad gan y wasg gael ei gyfeirio at ein blwch post pwrpasol ar gyfer y wasg, yn hytrach na’r Ystafell Reoli.
Mae ein Gweithredwyr Rheoli yn cael nifer fawr o alwadau ar hyn o bryd, a rhaid iddynt ganolbwyntio ar anfon adnoddau priodol i argyfyngau mewn modd amserol. Peidiwch â’u ffonio i ofyn am wybodaeth am ddigwyddiadau os gwelwch yn dda.
A duty press officer will be available to manage all press enquiries between 7:00am and 10:00pm daily. Please contact us via Bydd swyddog y wasg ar gael i reoli holl ymholiadau’r wasg rhwng 7:00yb a 10:00yh bob dydd. Cysylltwch â ni drwy law media@decymru-tan.gov.uk a byddwn yn ateb eich ymholiad yn syth.
Er mwyn sicrhau y gallwn ymateb mor effeithlon â phosibl, gofynnwn yn garedig i chi ddarparu amseroedd a lleoliadau cywir ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau, a fydd yn ein helpu i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym ar ein system.
Diolch am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad